gan
Gwennan Jenkins
Trefnwyd taith lwyddiannus arall ar y 23ain o Ebrill, sef y bedwaredd daith o’r bron i godi arian at Sefydliad Aren Cymru. Eleni dechreuwyd o Ysgol Llanwenog ac aed am daith o 4.5 milltir o gwmpas Brynteg, Rhuddlan, Plas y Dolau, Drefach a nôl i’r Ysgol am gawl blasus a baratowyd gan y Cynghorwyr Cymuned.
Diolch i’r Brifathrawes a’r Gogyddes, Eleri Davies am agor yr ysgol a helpu gyda gweini’r bwyd.
Ymunodd hanner cant o bobl o bob oed gyda ni ar y daith a chasglwyd dros £600 tuag at elusen Sefydliad Aren Cymru. Bore bendigedig o ddysgu am ddarn bach arall o’n Plwyf hanesyddol!
Bu criw o Blwyf Pencarreg yn cerdded hefyd yn ardal Cwmann o dan arweiniad Philip Lodwick a chasglwyd tua £450 tuag at yr yn achos.