Beth ydych yn ei wneud ar Sadwrn niwlog di ysbryd? Wel, mynd gyda ffrindiau o Geredigion wnes gan droi y car am Libanus yn Mhowys – ie mynd i un o deithiau heriol Cymdeithas Edward Llwyd o wyth milltir dan arweinyddiaeth Richard Davies.
Cyrraedd Canolfan ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brecheiniog, y gwynt yn gryf a niwl yn cuddio Pen-y-fan, ond y nod cerdded lan Y Fan Frynych a gweld Craig Cerrig Gleisiad. Saif y ganolfan rhyw 300 medr uwch na’r môr felly roedd dringfa eitha caled o’m blaen i gyrraedd copa Fan Frynych sydd yn 629 medr o uchder. Roedd y gwynt yn gryf ac yn ein hwyneb yr holl ffordd i fyny, felly cyrraedd y pegwn y Fan wnaethom ar ôl cinio, cawsom olygfeydd cyffrous iawn o eangder Sir Powys, a lliwiau aur yr Hydref, hefyd gweld olion y Sarn Helen yn y dyffryn islaw.
O’r Fan Frynych cerdded am warchodfa Craig Cerrig Gleisiad. Lluniwyd cymeriad Craig Cerrig Gleisiad gan rewlif yr Oes Ia diwethaf rhyw 18,000 o flynyddoedd yn ôl. Anamal bydd y llethrau sy’n wynebu y gogledd yn gweld haul, ac mae’r safle yn rhoi rhyw ias i chwi. Oherwydd yr amodau hyn, mae planhigion Arctig-Alpaidd yn tyfu yma. Planhigion fel y Tormaen Porffor a’r Tormaen Llydandroed.
Wrth gerdded islaw y basin ceir twmpathau a thwyni gweddillion o’r rhewlif a elwir yn Farian, ac yn anodd i gerdded drostynt. Yna cael ein gwres wrth gerdded nôl dros Twyn Dylluan Ddu a gweld ein ceir rhyw filltir a hanner islaw yn y dyffryn.
Os am fwy o wybodaeth am Gymdeithas Edward Llwyd edrychwch ar y We neu cysylltwch â fi.