Fe wnaeth cyfanswm o 90 o dractorau cyrraedd Maes yr Onnen yn Drefach Llanwenog ar fore Sul Mai 28 i gymryd rhan yn y drydedd Daith Tractor.
Bydd yr arian a godir o’r digwyddiad eleni yn cael ei roi i Beiciau Gwaed
Cymru a Chlwb Cledlyn.
Mae gwirfoddolwyr Beiciau Gwaed Cymru yn darparu cludiant y tu allan i oriau gwaith ar gyfer cyflenwadau gwaed, plasma, a gofynion meddygol eraill, gan arbed symiau sylweddol y gellir eu defnyddio ar gyfer gofal claf rheng flaen.
Dechreuodd y digwyddiad gyda raffl ac ocsiwn am 10.30 ac fe fydd gwybodaeth bellach am y cyfanswm a godwyd yn cael ei gynnwys yn rhifyn Gorffennaf Clonc.
Mynychodd Elin Jones AM a Ben Lake y digwyddiad i ddangos eu cefnogaeth. Roedd y digwyddiad wedi denu tyrfa fawr o bob rhan o’r gymuned leol.
Hoffai’r trefnwyr ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi’r digwyddiad, o’r gyrwyr tractor a oedd wedi cymryd rhan, y busnesau lleol a noddodd y digwyddiad yn garedig gan hysbysebu yn y rhaglen ac i holl bobl a ddarparodd wobrau raffl, a rhoddion.
Os hoffai unrhyw un gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn, gallwch gysylltu ag un o’r trefnwyr, Pete Davies ar 01570434342