Tîm Rygbi dan 16 Llambed yn y rownd derfynol

gan Rhys Jones

Ar ddydd Sul y 9fed o Ebrill, chwaraeodd tîm rygbi dan-16 Llambed yn rownd derfynol cwpan sir Gaerfyrddin yng Nghlwb rygbi Rhydaman. Tîm dan-16 San Clêr oedd y gwrthwynebwyr mewn gornest cyffrous ar ddiwrnod oer a diflas. Roedd y ddau dîm wedi gwynebu ei gilydd ar sawl achlysur dros y tymhorau diwethaf, ac roedd y canlyniadau yn agos bob tro.

Roedd carfan Llambed yn cynnwys sawl unigolyn talentog, yn cynnwys y bachwr Ryan Mackie Jones a’r canolwr Ewan Bowden, y ddau wedi cynrychioli tîm dan-16 Scarlets y Gorllewin eleni. Dechreuodd Llambed y gêm ar dân wrth i’r wythwr pŵerus, Gethin Morgans, frasgamu ar draws y llinell gais i agor y sgorio am y dydd. Dilynwyd hyn gyda dwy gais arbennig gan y gwibiwr Ewan Bowden, y cyntaf yn dod wrth i’r canolwr Osian Jones daflu pas bach grefftus i’w faswr Iestyn Evans wrth iddo redeg ongl penigamp yn syth drwy’r llinell amddiffynnol ac yna lledu’r bêl i Bowden i sgorio o dan y pyst. Yn dilyn yr ail gais, fe giciodd Iestyn Evans y trosiad gan ychwanegu ychydig o bwyntiau at y sgôr.

Cyn hir, fe drosglwyddwyd meddiant y bêl yng nghanol cae ac fe aeth San Clêr ymlaen i sgorio dwy gais i’w hunain, wrth iddynt ddefnyddio pwysau’r blaenwyr cryfion yn effeithiol. Ychydig funudau cyn yr egwyl, cafodd Llambed gic cosb ger llinell gais San Clêr. Yn dilyn llinell da, fe gyfunodd y blaenasgellwr egnïol, Steffan Davies, gyda’r bachwr Ryan Mackie Jones mewn symudiad penigamp gyda’r bachwr yn sgorio yn y gornel dde.

Pan ailddechreuodd y gêm, roedd bechgyn San Clêr fel petaent wedi cael troedigaeth o ryw fath, wrth iddynt garlamu’n nerthol ar draws y cae cyn i’r asgellwr dorri’n rhydd o’r amddiffyn a sgorio yn y gornel. Yn dilyn ambell gais cyflym arall, roedd hi’n edrych yn sicr fel bod San Clêr ar y blaen gyda bron i ugain pwynt. Fe daclodd bechgyn Llambed yn arwrol gyda’r triawd Ryan Evans, Osian Jones a Steffan Davies yn cydweithio’n glyfar i ddifetha ymosodiadau San Clêr. Ildiodd San Clêr y bêl eto, ac fe ledwyd y bêl gan y maswr Evans i ddwylo’r asgellwr Liam Jones cyn iddo ochrgamu ei ffordd i’r llinell i leihau’r gwahaniaeth rhwng y ddau dîm.

Yn dilyn cerdyn felen i San Clêr ac i Lambed, enillodd Llambed gic gosb ar y llinell hanner ffordd wrth i’r eilydd o brop Aled John dderbyn tacl uchel. Fe ymosododd Llambed tuag at y llinell gais cyn i Morgans groesi am ei ail gais. Eto, ychwanegodd Evans y pwyntiau ychwanegol. Yn anffodus, colli oedd hanes y bechgyn o Lambed o 41 i 36. Ond, er gwaethaf y sgôr agos, fe chwaraeodd pob un yn arwrol gan roi o’u gorau drwy gydol y gêm. Pwy a wŷr, efallai bydd rhai o’r chwaraewyr yn gwisgo crys coch Cymru yn y dyfodol!