Vincent Evans a’i awen

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Y diweddar Vincent Evans. Llun gan Tim Jones.
Y diweddar Vincent Evans. Llun gan Tim Jones.

Diolch i John Phillips o Lanbed am ysgrifennu am ei gyfaill Vincent Evans yn rhifyn Chwefror Papur Bro Clonc.  Roedd y ddau yn dod yn wreiddiol o bentref Gwauncaegurwen.

Ond yr hyn a synnodd darllenwyr Clonc oedd bod John Phillips wedi datgelu bod Vincent Evans yn dipyn o fardd yn ei ieuenctid.

Adnabyddwyd Vincent Evans, Betws Bledrws, fel cyfreithwr llwyddiannus yn nhref Llanbed ond bu’n fyfyriwr Cymraeg yng Ngholeg Aberystwyth a thra’r oedd yno daeth o dan ddylanwad rhai o feirdd mwyaf y cyfnod.

Yn y papur bro, cyhoeddir tair cerdd o eiddo Vincent Evans sef ‘Y Gwanwyn’, ‘Aberystwyth’ a ‘Ym Mynwent Fy Mro’.  Yn ogystal â hynny, mae John Phillips yn apelio ar ddarllenwyr “Tybed a oes yna gerddi eraill gan Vincent Evans yn llechu yn rhywle?”