Wele destunau llenyddol Eisteddfod Llambed eleni. Beth amdani?

Elin Williams
gan Elin Williams

TESTUNAU’R ADRAN LENYDDOL

Eisteddfod Rhys Thomas James, Pantyfedwen, Llambed

Awst 26-28, 2017

 

Beirniaid:  Y Prifardd Dylan Iorwerth a Karen Owen

Y Babell Lên (gan gynnwys y Talwrn): Festri Shiloh, nos Lun, 28 Awst, am 7 o’r gloch

 1. Cystadleuaeth y Gadair.  

Englyn yr un i unrhyw saith Gŵyl 

Gwobr: Cadair Fechan a £200

 

2. Cystadleuaeth y Goron.

Casgliad o gerddi rhydd (dim mwy na 100 llinell) ar y testun ‘Cainc’ neu ‘Ceinciau’

Gwobr: Coron a £200

 

3. Cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith.

Dau ddarn o ryddiaith mewn ffurfiau gwahanol ar y thema ‘Lleidr’ neu ‘Lladron’

(y cyfanswm heb fod yn fwy na 4,000 o eiriau)

Gwobr: Y Fedal a £200

 

4. Cystadleuaeth y Gadair i rai dan 25 oed.

Cerdd ar y testun ‘Gwên’

Gwobr:  Cadair Fechan a £150

 

5. Tlws Rhyddiaith Ieuenctid i rai dan 25 oed.

Darn o ryddiaith ar y testun ‘Esgus’

Gwobr:  Tlws Ieuenctid a £150

 

6. Englyn.

Testun ‘Map’

Gwobrau:  1.  £50  2. £30  3. £15

 

7. Telyneg.

Testun ‘Porthor’

Gwobrau:  1.  £50  2.  £30  3.  £15

 

8. Cerdd i’w chyflwyno gan grŵp o lefarwyr

Testun:  Agored

Gwobrau:  1.  £50  2.  £30  3.  £15      Y gwobrau yn rhoddedig gan Gôr Llefaru Sarn Helen

 

9. Cywydd.

Testun:  ‘Gwennol’

Gwobrau:  1:  £50  2.  £30  3.  £15

 

10. Rhyddiaith.  Casgliad o brofiadau neu straeon digri.

Testun:  ‘Troeon Trwstan’   (dim mwy na 1,500 o eiriau)

Gwobrau:  1.  £50  2.  £30  3.  £15

 

11. Soned.

Testun:  ‘Llosgi’

Gwobrau:  1.  £50  2. £30  3.  £15

 

12. Cystadleuaeth i ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6

Stori  ‘Bai ar Gam’

Gwobrau:  1.  £30  2.  £20  3.  £10

 

13. Cyfansoddi Emyn i’w ddefnyddio mewn gwasanaeth crefyddol gan fudiad cenedlaethol

Gwobr:  £100 (ni rennir y wobr)

 

14. Talwrn y Beirdd.

Disgwylir i’r tîmau gofrestru erbyn dydd Mawrth, 15 Awst 2017.  Dim llai na 3 aelod ymhob tîm.  Gwobrau: 1. £150 a Tharian Sialens Goffa Jim Evans; 2. £100; 3. £50.  (Rhoddir £20 i bob tîm arall sy’n cystadlu).

I gofrestru, cysylltwch ag ysgrifennydd y Pwyllgor Llên, Gillian Jones: 01570 480424 neu gillianj249@gmail.com.

 

*****************************************************************

 AMODAU

1.Rhaid i bob cynnig llenyddol fod yn llaw’r Pwyllgor Llên erbyn dydd Gwener, 11 Awst 2017.  Er tegwch i’r Beirniaid ni dderbynnir cynigion ar ôl y dyddiad hwn ac ni dderbynnir cynigion drwy e-bost.

Danfoner pob cais, ynghyd â ffugenw ac amlen sydd yn cynnwys eich enw, eich e-bost (os oes un gennych), a’ch cyfeiriad a rhif ffôn, at Gadeirydd y Pwyllgor Llenyddol: Elin Williams, Y Garn,  Cwm-ann,  Llanbedr Pont Steffan,  Ceredigion SA48 8EL

2.  Traddodir y beirniadaethau yn y Babell Lên yn Festri Shiloh am 7 o’r gloch, nos Lun, 28 Awst, heblaw am gystadlaethau rhif 1, 2, 3, 4, 5 ac 13 a draddodir oddi ar lwyfan yr Eisteddfod.

3.  Atelir y wobr yng nghystadleuaeth y ddwy Gadair, y Goron, y Fedal Ryddiaith a’r Tlws Ieuenctid oni bydd y buddugol yn bresennol yn yr Eisteddfod.

3.  Byddwn yn danfon eich beirniadaethau ar e-bost oni nodwch yn wahanol.  Os ydych yn dymuno derbyn beirniadaeth ysgrifenedig drwy’r post, dylid nodi hynny wrth gystadlu a chynnwys amlen wedi’i stampio.

4.  Rhaid i’r cyfansoddiadau i gyd fod yn Gymraeg, yn waith dilys y cystadleuydd, wedi’u hysgrifennu’n eglur a threfnus neu wedi’u teipio, ar un ochr yn unig i ddalen A4, â’r tudalennau wedi’u gosod yn y drefn gywir.

5.  Y ffugenw yn unig i’w roi ar y cyfansoddiad/au.  Rhaid amgάu gyda phob cyfansoddiad amlen dan sêl yn cynnwys enw a chyfeiriad y cystadleuydd ac ar ei chlawr deitl, rhif y gystadleuaeth a ffugenw’r cystadleuydd.

6.  Bydd hawlfraint yr holl gyfansoddiadau buddugol yn eiddo i Bwyllgor yr Eisteddfod.