Wythnos Carnifal Llanybydder

gan Siona Evans

Bu wythnos Carnifal Llanybydder yn un llwyddianus iawn. Yn dilyn Cyngerdd Ieuenctid yr Ardal, cynhaliwyd Helfa Trysor mewn car ar y nos Lun. Diolch i Heulwen Williams, Louise Mckee ac Helen Williams am y trefnu a da iawn Gareth Williams, Andrew Williams, Dafydd ac Lois Williams am ennill.

Yn dilyn yr oedd nosweth Bingo wedi’i chynnal yn y Clwb Rygbi. Diolch i bawb a wnaeth helpu trefnu’r nosweth lwyddianus.

Ar y nos Fercher yr oedd yr Helfa Drysor Cerdded. Diolch i Sian Davies a Bethan Williams am drefnu nosweth bleserus iawn. Da iawn Heulwen Williams a Louise Mckee am ennill. Hefyd Meinir Williams, Helen Williams a Siona Evans a Rhodri Cope a ddaeth yn gydradd ail.

I gwbwlhau’r wthnos cyn y diwrnod mawr roedd nosweth y cwis. Diolch i Adrian ‘Dodo’ Thomas am drefnu’r cwis a chael digon o bobol i feddwl a chrafu pen! Llongyfarchiadau i ‘Quiz Team Aguilera’ sef Dai Williams, Stuart Brown, Gareth Williams ac Andrew Williams, am ennill â 154 pwynt allan o 275. Yn ail daeth ‘Ladies and the Tramp’ â 151 pwynt, ac yn 3ydd roedd ‘Restaurant 62’ â 130 pwynt.

Diolch i bawb a wnaeth helpu trefnu’r noswethiau ac i’r rhai a gymerodd ran.