Am ei chyfraniad i ddiwylliant a Chymreictod yr ardal fe fydd Elonwy Davies o Lanybydder yn cael ei derbyn i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.
A hithau’n arweinydd ar ddau gôr – Côr Meibion Cwmann a’r Cylch a Lleisiau’r Werin – fe fydd yn derbyn y Wisg Werdd am ei gwaith i’r celfyddydau.
“Mi oedd e’n dipyn o sioc i glywed,” meddai Elonwy gan ddweud iddi bendroni cyn derbyn yr anrhydedd.
“Dw i’n gwybod am lawer sydd wedi gwneud gymaint o waith i’w hardal, ond mae gweithio dros yr ardal leol yn bwysig iawn i fi,” meddai.
‘Yn falch sobor…’
Yn ogystal ag arwain corau, mae Elonwy yn brysur yn hyfforddi unigolion a phartïon i gystadlu mewn eisteddfodau ac yn weithgar gyda’r Clybiau Ffermwyr Ifanc a’r Urdd.
“Mae’n gwneud gwaith clodwiw gyda’r mudiadau yma, ac ry’n ni’n falch sobor ei bod wedi cael yr anrhydedd,” meddai Haydn Richards, Cadeirydd Côr Cwmann.
Mae Elonwy hefyd yn ddiacon, ysgrifennydd, athrawes Ysgol Sul ac organydd yng Nghapel Rhyd y Bont Llanybydder.
“Mae wedi bod yn hynod o weithgar i’r ardal dros y blynyddoedd,” ychwanegodd Haydn Richards.
Fe fydd yn cael ei hanrhydeddu yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda 50 o bobol eraill gan gynnwys y chwaraewr rygbi George North, y cerddor Geraint Jarman a’r cyflwynydd Nia Roberts.