Ymateb ‘ysgubol’ Cynghorydd tref Llanbed

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Elin a’i merch fach Elena

Cefnogaeth o ‘bob cwr o’r byd’ wedi i Elin T Jones gael ei beirniadu am siarad Cymraeg â’i merch

Mae Elin T Jones sy’n un o gynghorwyr tref Llanbed yn dweud ei bod wedi’i rhyfeddu gan ei neges ar Twitter sydd wedi’i rannu gan bobol “ymhob cwr o’r byd.”

Dros y penwythnos fe drodd Elin T Jones at wefan gymdeithasol Twitter gan honni fod dynes wedi gofyn iddi pam nad oedd hi’n siarad Saesneg yn hytrach na “foreign muck” gyda’i phlentyn.

Esboniodd y ferch sy’n gynghorydd Plaid Cymru ei bod yn siopa yn y dref ar y pryd ac yn dysgu enwau’r ffrwythau yn Gymraeg i’w merch fach, Elena.

‘Taflu goleuni’

Erbyn hyn mae neges wreiddiol Elin T Jones wedi cael ei hail-drydar mwy na 12,000 o weithiau gyda 34,000 yn ei ‘hoffi’.

“Dw i wedi derbyn negeseuon o gefnogaeth o bob cwr o’r byd, ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn gwneud rhywbeth i daflu ychydig o oleuni ar y sefyllfa,” meddai.

Dywedodd ei bod am dynnu sylw nad yw “gwahaniaethu yn dderbyniol mewn unrhyw ffurf.”

‘Adlach’

Esboniodd ei bod wedi cael ei beirniadu am siarad Cymraeg, ond dywedodd y gallai’r ddynes feddwl ei bod yn siarad Pwyleg neu unrhyw iaith arall.

“Dw i ddim yn meddwl fod gwahaniaethu ar unrhyw un yn iawn – os ydy e oherwydd yr iaith maen nhw’n siarad gyda’u plant neu am unrhyw reswm arall,” meddai.

“Mae cymaint o adlach wedi bod yn erbyn yr iaith Gymraeg yn ddiweddar, ac mae hyn yn rhan fach o hynny,” meddai wedyn.