Ymweliad ein gefeilliaid o Ffrainc ag Ysgol Bro Pedr

gan Philip Lodwick
Plant ST Germain Sur Moine
Plant ST Germain Sur Moine

Fe gyraeddodd bws llawn o blant o efeilldref Llambed, St Germain Sur Moine ger Nantes, yn gynnar ar fore dydd Mercher.

Yn gynta aethant i’r coleg i weld rihyrsal y plant bach. Fe ddefyddion nhw ddigon o egni yn actio a chanu. Wedyn cawsom ganu corawl.  Ac roedd y Ffrancod wedi’u diddori’n fawr.

Yna yn ôl i’r ysgol, lle cafodd yr ymwelwyr eu rhannu i lawer o ddosbarthiadau.  Yr oedd yna Grefft, Arlunio, Coginio, Canu a digon i’w diddanu.

Y Trefnwyr
Y Trefnwyr

Ar ôl cinio da yn yr ysgol, fe fu canu a gwersi Cymraeg.

Yr oedd ynganu Cymraeg da gan y Ffrancwyr. I gloi fe ganodd yr ymwelwyr Y La Marseillaise gyda chyffro cyn dal y bws yn ôl i Gaerdydd.

Fe gyfranodd y pwyllgor lleol tuag at y ginio. A diolch yn fawr i’r Pennaeth Mrs Jane Wyn, Dr Delyth Jones, a phawb o’r athrawon, a roddodd gymaint o ddiddordeb i bawb ac heb anghofio’r disgyblion oll. Taith gymunedol lwyddiannus. Bon Voyage.