Ysgoloriaeth Deithio i fachgen o Lanwnnen

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mewn seremoni yn y Sioe Fawr ddydd Mawrth (Gorffennaf 25) fe gafodd bachgen o Lanwnnen ei wobrwyo ag ysgoloriaeth arbennig.

Guto Jones yw deiliad Ysgoloriaeth Deithio Coleg Sir Gâr Gwili Jones am eleni.

Fe gafodd yr ysgoloriaeth ei sefydlu pedair blynedd yn ôl er cof am Gwili Jones a sefydlodd y cwmni peiriannau amaethyddol yn 1947.

Mae’r wobr yn cael ei chynnig i fyfyrwyr sy’n astudio pynciau yn ymwneud â’r tir drwy’r coleg.

Bwriad yr ysgoloriaeth yw annog pobol ifanc i deithio, ehangu eu gorwelion a meithrin sgiliau a syniadau ym maes eu diddordeb.