Caled ar y tu allan a meddal ar y tu fewn!

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Saer coed o Lanbed sy’n ateb cwestiynau Papur Bro Clonc y mis hwn, ac mae e’n dipyn o gymeriad.

Mae John Heath yn mwynhau troi ei law at wahanol sgiliau yn ei waith bob dydd gyda Cartrefi’r Cwm, ond ddim mor hoff o fod ar ben to yng nghanol y glaw.

Mae e’n aelod o dîm cyntaf Clwb Rygbi Llanbed ac wedi ei enwi fel y sgoriwr ceisiadau uchaf yn ei dymor cyntaf gyda’r tîm, ond tybed os yw ei gyd chwaraewyr yn gwybod sut mae gwneud iddo redeg yn gyflym?  O ddarllen colofn ‘Cadwyn Cyfrinachau’ y mis hwn, cewch wybod y cyfan.

Mae e’n disgrifio ei hunan fel person go ‘laid-back’ a bod kebabs, pizzas, indian a digon o chinese yn ei wneud yn gryf.  Ychwanega “Yn fy marn i ma unrhywbeth gwyrdd yn wael i chi!”

Beth oedd y peth ofnadwy a wnaeth e i gael row gan rywun?  Pryd lefodd e ddiwethaf?  Am beth mae e’n breuddwydio?  Beth yw ei ddiod arferol?  Gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu rhifyn cyfredol Clonc er mwyn mwynhau darllen ei atebion difyr.