Cofiwch wario yn eich siopau lleol!

gan Sian Gwili

Dyna oedd neges Gillian Elisa, Gwestai Arbennig Noson Siopa Hwyr Llanbed eleni, wrth iddi groesawi’r dorf wnaeth droi allan nos Iau ddiwetha i fwynhau noson hwyliog a chymdeithasol.

Roedd y goleuadau lliwgar yn datgan “Nadolig Llawen” (yn newydd eleni) ac sydd yn hongian bob pen o’r dre yn adlewyrchu’r croeso sydd gan Lanbed i ymwelwyr.

Roedd ffenestri busnesau’r dre bob un wedi’u haddurno’n brydferth, yn dangos ymdrech creadigol a balchder yn y gwasanaeth personol a gynigir. Derbyniodd “Cadi & Grace” y Cwpan am y Ffenest Orau, gyda chlod arbennig i “Calico Kate” a’r “Parlwr Pinco”.  Llongyfarchiadau bawb am lwyddo i gyfrannu at ysblander y dre eleni.

Bu Santa Clos yn ddiwyd, gan ddechrau gydag ymweliad â chartre Hafandeg, gan gyrraedd ar gefn tractor moethus – profiad newydd iddo – cyn cael ei gludo’n ôl i’r dre mewn sled a dynnwyd gan geffyl (bron cystal â Rudolf).

Hou fach iddo wedyn, yn gwrando ar Gillian, Y Welsh Whisperer a Chôr Cwmann yn canu carolau, cyn bwrw am y ‘grotto’ yn eglwys Emmaus.  Yno, cafodd dros gant ac ugain o blant eu croesawu gan fugail hawddgar, a chyfle i ddysgu am stori’r Nadolig cyn cwrdd â Santa a derbyn rhodd siocled (gyda diolch i gwmni bwyd Castell Howell am ei haelioni).

Gyda phlant ysgolion Bro Pedr, Dyffryn Cledlyn, Y Dderi, Carreg Hirfaen a Llanllwni yn canu gydol y noson, ‘roedd yna ddigonedd o adloniant, heb sôn am y dawnswyr, y sioe pypedau, paentio gwynebau a ‘glitter tattoos’! Ac roedd ‘na gyfleoedd ychwanegol i siopa’n lleol, wrth gefnogi’r stondinwyr bwyd a chrefft. Ac yn y ‘Pantri’ roedd ‘na gyfle i gwrdd â Doreen Lewis y gantores canu gwlad i glywed am ei llyfr newydd.

Ar ran Siambr Fasnach Llanbed, diolch i’r holl wirfoddolwyr a busnesau wnaeth gyfrannu at lwyddiant y noson.