Cotiau am ddim i’r anghenus yn Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Laura Jones

Mae dau ffrind wedi dechrau ar brosiect dyngarol yn Llanbed i ddarparu cotiau am ddim i’r anghenus.

Penderfynodd Laura Jones i wneud rhywbeth ymarferol er mwyn helpu’r digartref a’r rhai na fedr fforddio prynu cotiau yn ystod tywydd oer y gaeaf. Ac arddangoswyd y cotiau tu fas y Co-op nos Sul.

Un o Lanbed yw Laura, ac wedi gweithio yn Salon Andrew Price ers 10 mlynedd. Dechreuodd helpu’r bobl ddigartref llynedd gan gasglu cotiau a blancedi trwy’r flwyddyn ac aeth hi a’i ffrind Rhian lawr i Abertawe ym mis Rhagfyr 2017 i’w rhoi allan yn y strydoedd i’r digartref. “Roedd yn agoriad llygad” meddai hi “i weld bod gan rai pobl ddim byd ond yn parhau i fod mor gadarnhaol.”

Y cotiau tu fas Co-op Llanbed.
Y cotiau tu fas Co-op Llanbed.

“Mae pawb yn lleol wedi bod mor gefnogol” ychwanegodd Laura, “ac wedi cyfrannu trwy gydol y flwyddyn. Ar ôl siarad ag ychydig o bobl o’r ardal, penderfynais fy mod yn mynd i drefnu rheilen gotiau yn Llanbed, nid yn unig i bobl ddigartref, ond ar gyfer y rhai a allai fod angen ychydig o gymorth ychwanegol. Rwy’n casáu meddwl bod unrhyw un yn mynd yn oer oherwydd na allant fforddio cot.”

Cytunodd cwmni Co-op i adael y rheilen tu fas archfarchnad y dref yn Stryd y Bont, gan ei storio bob nos a’i thynnu mas bob bore. Benthycwyd y rheilen gan Peacocks.

“Y syniad yw, os oes angen cot arnoch ac efallai na allwch fforddio un, helpwch eich hun. Ac os ydych eisiau helpu a bod gennych got sbâr, gosodwch hi ar y rheilen. Mae’n hawdd.”

Syniad gwych, mae’n rhaid dweud, a hynny gan ferch leol a aeth ati ar ei liwt ei hunan i helpu. Nid yw’n derbyn unrhyw gymorth gan elusen ac nid yw’n rhan o unrhyw ymgyrch genedlaethol. Dim ond gweledigaeth syml, effeithiol. Ac mae Laura yn galw yn y Co-op yn ddyddiol i wirio’r stoc.

“Dim ond ceisio rhannu ysbryd y Nadolig.” meddai.