Croeso nôl i ŵyl Pêl-Droed Llambed!

gan Dylan Davies
Dan 10 Llambed
Dan 10 Llambed

Ar ddydd Sadwrn Mehefin 16eg, ar gaeau’r Brifysgol, croesawyd nôl Gŵyl Pêl Droed Llambed ar ôl absenoldeb o ugain mlynedd.

Ar ôl misoedd o baratoi, daeth y diwrnod mawr.  Roedd y tywydd wedi bod yn braf drwy’r wythnos, gwnaeth hyn yr adeiladu a’r cynllunio yn haws o lawer i bawb.

Bu llawer o ddiddordeb gan dîmau lleol, i dîmau o gryn bellter fel Casnewydd a Abergwaun o Sir Benfro.

Yn cystadlu ar y dydd roedd tîmau Dan 6, Dan 8, Dan 10, Dan 12, Dan 14 a Merched Dan 12.

Merched dan 12 Llambed
Merched dan 12 Llambed

Ar ôl y cystadlu brwd roedd rhaid cael enillwyr. Canlyniadau’r dydd oedd:
Dan 10:- Enillwyr – Casnewydd (Newport Pembs)
Yn ail:- Llambed   (Llun Dan 10 Llambed)

Dan 12:- Enillwyr – Llanilar
Yn ail – Feinfach

Dan 14:- Enillwyr – Ffostrasol
Yn ail :- Aberaeron

Merched Dan 12:- Enillwyr – Sêr Caerfyrddin
Yn ail :- Llambed.  (Llun Merched)

Casi
Casi

Braf oedd gweld Casi Gregson o Dîm merched Llambed yn ennill chwaraewraig y twrnamaint o Dan 12 i Ferched a Dion Deacon Jones yn ennill chwaraewr y twrnamaint o Dan 10. Da iawn chi!

Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr, ond mwy na hynny, gobeithio cafodd y plant i gyd fwynhad drwy chwarae pêl droed a chystadlu.

Dion
Dion

Ar ran Clwb Llambed, diolchwn i’r plant, rhieni a’r cefnogwyr am eu cefnogaeth drwy’r dydd, ond mae’r diolch mwyaf i’r gwirfoddolwyr  a fu’n paratoi am yr wythnosau yn arwain i fyny at y diwrnod. Diolch i’r busnesau lleol am eu hamser a’u haelioni i wneud y diwrnod yn un llwyddianus a hwylus i bawb.  Edrychwn ymlaen i groesawu pawb yn ôl i dwrnamaint Llambed yn 2019.