Cyfrinachau syrfëwr ifanc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Steffan yn swyddfa Morgan & Davies Llanbed.
Steffan yn swyddfa Morgan & Davies Llanbed.

Steffan Llyr Morgan o Gellan sy’n ateb cwestiynau Papur Bro Clonc y mis hwn.  Gŵr ifanc 25 oed sydd wedi dychwelyd i’r ardal i weithio yn y fusnes deuluol, sef Morgan & Davies, Llanbed.

Ar dudalen ‘Cadwyn Cyfrinachau’ mae Steffan yn datgelu beth oedd yr eiliad o’r embaras mwyaf iddo yn ogystal â’r peth mwyaf rhamantus a wnaeth rhywun iddo.

Steffan gyda'i fam a'i dad.
Steffan gyda’i fam a’i dad.

Dywed mai’r peth gorau am ei swydd bresennol yw mynd mas i’r wlad heb orfod eistedd o flaen cyfrifiadur trwy’r dydd, ond ar y llaw arall gwêl y broses o sefyll arholaidau RICS a hynny ar ben gwneud gwaith dyddiol yn faich ychwanegol.

Mae e wrth ei fodd yn mynychu gemau rygbi rhyngwladol a mynd ar deithiau rygbi gyda’r bechgyn ond mae ganddo gydwybod fusnes hefyd oherwydd y dymuna weld y Cynulliad yn pasio deddf i gadw banciau cefn gwlad ar agor.

Er mwyn darganfod beth yw ei dalentau cudd a pha bwerau arbennig yr hoffai feddu arnynt, prynwch y copi diweddaraf o Bapur Bro Clonc.