Mae’r nofel a ddaeth yn ail i Ysbryd yr Oes gan Mari Williams yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 yn cael ei chyhoeddi yr wythnos hon. Mae Esgyrn gan Heiddwen Tomos yn sôn am berthynas tad-cu a’i ddau ŵyr – Twm yn 16 oed a Berwyn yn iau ac mewn cadair olwyn.
Trafodir themâu cyfoes a thraddodiadol yma, megis perthyn a threftadaeth, mewnfudwyr a chariad. Mae’r cymeriadau, a’u perthynas â’i gilydd, yn annwyl ac yn gredadwy.
Cafodd y nofel ei chanmol gan feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen, gyda Meinir Pierce Jones yn nodi:
“Mae’r portread o Tad-cu yn gampwaith, yn ei ymarweddiad a’i sgwrs, ei ddoethieb a’i ffolineb.”
Dywedodd beirniad arall, Bet Jones:
“Ceir cydbwysedd meistolgar rhwng y dwys, y doniol a’r ffiaidd… Roeddwn wedi fy swyno’n llwyr. Does gen i ddim amheuaeth na fydd hi’n hynod o boblogaidd ac yn dod â phleser i lawer iawn o ddarllenwyr.”
Gan siarad am y clod mae’r nofel wedi ei dderbyn yn barod, dywedodd Heiddwen Tomos:
“Roedd dod yn agos at y frig y gystadleuaeth yn syndod braf. Rwy’n gobeithio’n fawr y caiff Esgyrn groeso cynnes.”
Daeth yr hadyn o syniad wrth siarad â’i thad yng nghyfraith. Meddai Heiddwen eto:
“Mae’n stori lle mae’r hen a’r ifanc yn uno. Mae ynddi’r chwerw a’r melys, y dwys a’r doniol. Mae cefn gwlad Cymru yn fyw ynddi ac mae’r cymeriadau yn rhai fydd pobl yn gallu uniaethu â nhw gobeithio.
Mae’n nofel gyda chefn gwlad de Ceredigion yn ganolbwynt iddi a’r dafodiaith yn darlunio’r cymeriadau.”
Yn ôl Meinir Wyn Edwards, Golygydd Creadigol gyda gwasg y Lolfa:
“Mae’n bleser gallu cyhoeddi nofel Heiddwen, yn ogystal â’r nofel enillodd Gwobr Daniel Owen eleni. Mae Esgyrn eisoes wedi cael clod gan y beirniaid a dwi’n sicr y bydd hi’n nofel boblogaidd iawn gan ystod eang o ddarllenwyr. Mae Heiddwen yn feistres ar greu deialog fywiog, ddoniol ac ysgytwol ar brydiau, ac ar bortreadu cymeriadau sydd yn aros yn y cof am amser hir.”
Mae Heiddwen yn byw ym Mhencarreg ger Llanbed gyda’i gŵr a thri o blant, ac mae’n Bennaeth Cyfadran y Celfyddydau Mynegiannol yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul. Graddiodd mewn Cymraeg a Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth lle datblygwyd ei diddordeb mewn ysgrifennu creadigol. Enillodd nifer o wobrau cenedlaethol, gan gynnwys stori fer Taliesin a Radio Cymru yn 2015 a’r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon 2017. Aeth y ddrama Milwr yn y Meddwl, a gynhyrchwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru ar daith o gwmpas Cymru yn ddiweddar. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Dŵr yn yr Afon, yn 2017.
Bydd Esgyrn yn cael ei lansio’n swyddogol yn Neuadd yr Hafod, Gorsgoch am 7 o’r gloch ar nos Iau 6ed o Ragfyr. Bydd Bethan Mair yn holi Heiddwen Tomos, darlleniadau o’r nofel a lluniaeth ysgafn. Croeso mawr i bawb!
Mae Esgyrn gan Heiddwen Tomos ar gael nawr (£8.99, Y Lolfa).