Ar nos Sul, y 25ain o Fawrth, cynhaliwyd ein Cymanfa Ganu yng nghapel Shiloh, Llanbedr Pont Steffan, a hynny er cof am Dilys Davies, cyn-aelod ffyddlon o’r côr. Croesawyd pawb gan Lena, ein Cadeirydd; talodd deyrnged hyfryd a phwrpasol iawn i Dilys, ac fe osododd hynny naws arbennig i’r noson.
Cafwyd eitemau gan ferched Corisma, ynghyd â Chôr Meibion Cwmann, Meirian Morgan o GFfI Llangeitho a Deuawd Bryngwyn. Arweiniwyd yr emynau yn hwylus gan Carys a Delyth, gyda Rhian a Lois wrth yr organ, a chyda’r capel yn orlawn, codwyd y to gan ganu bendigedig y gynulleidfa wresog a ddaeth i’n cefnogi.
Cafwyd lluniaeth ysgafn yn y festri ar ôl y Gymanfa, a chyfle i fwynhau clonc fach dros baned a chacen. Roedd holl elw’r noson yn mynd tuag at elusen Nyrsus Macmillan, ac fe godwyd bron i £2,000. Diolch o galon i bawb am eu cymorth, eu hymdrech a’u cefnogaeth, ac am gyfrannu at noson fydd yn aros yn ein meddyliau am amser hir.