Cystadlu da yn Ffair Ram

Ffair Ram 2018

Ffair Ram
gan Ffair Ram
Enillwyr 2018
Enillwyr 2018

Cynhaliwyd yr 28ain Ffair Ram ar gae pentref Cwmann ar yr 8fed Medi. Cafwyd tywydd anffafriol ond cefnogaeth dda yn ystod y dydd.

Cafwyd gweithgareddau llwyddiannus yn ystod y dydd o dan lywyddiaeth Mrs Gwyneth Morgan. Cafwyd araith bwrpasol ganddi.

Cafwyd cystadlu brwd ym mhob cystadleuaeth yn yr adrannau isod ac arddangosfa dda o hen beiriannau.  Dyma’r trydydd blwyddyn lle trefnwyd Taith Tractorau a gynhaliwyd yn ystod y bore.

Gwerthwyd y cynnyrch ar ddiwedd y dydd gan Roy Roach a chodwyd swm sylweddol tuag at Gornel Chwarae newydd i’r plant yng Nghae’r Pentref.

Dyma enillwyr y Gwobrau:

Adran Fferm:- Gareth Russell; Llysiau a Ffrwythau:- Stan Evans; Blodau:- Muriel Mc Mullan; Cynnyrch y Gegin:- Sioned Russell; Cyffeithiau a Gwinoedd:- Pat Jones; Ysgol Feithryn:- Evie Haf Williams; Dosbarth Derbyn:- Oleanna Cousinne; Blwyddyn 1 a 2:- Cai Wyn Davies ac Esther Llwyd Jones; Blwyddyn 3 a 4:- Ellie Gregson; Blwyddyn 5 a 6:- Rhun Davies; Ysgol Uwchradd:- Marged Jones a Gwenllian Llwyd Jones; Arlunwaith:- Lowri Gregson a Meinir Evans; Ffotograffiaeth:- Lowri Gregson; Crefftau Cefn Gwlad:- Gwyn Williams; Adran Grefftau:- Meinir Evans.

Cyflwynwyd y cwpanau canlynol: Llysiau a Ffrwythau:- Er Cof am Martin Jones Felindre;- Stan Evans; Pwyntiau Uchaf yn Cynnyrch y Gegin a Cyffeithiau a Gwinoedd Cwpan sialens Bronwydd:- Pat Jones; Adran Grefftau:- Cwpan sialens Er cof am Dilys Godfrey:- Meinir Evans; Adran Defaid:- Cwpan Sialens Eric Harries am y ddafad neu oen fenyw orau:- Jones, Felindre; Cwpan Sialens Wyn a Mary (Ram Inn gynt) am y Hwrdd neu oen hwrdd gorau:- Russell, Coedeiddig; Cwpan Sialens Dalgetty am yr anifail gorau:- Russell Coedeiddig; Cwpan Sialens Teulu Hendai am y grŵp gorau o dri:- Price, Gelliwrol; Cwpan Sialens John Jones, Felindre Isaf am yr wyn tew gorau:- Price, Gelliwrol.

Hoffai’r swyddogion ddiolch i bawb a fu’n helpu ac am bob cefnogaeth.

Gellir gweld mwy o luniau ar wefan Ffair Ram.