Diwrnod Hwyl Llanllwni 2018

Annwen Evans
gan Annwen Evans

Ar brynhawn Sadwrn 7fed o Orffennaf cynhaliwyd Diwrnod Hwyl Llanllwni a drefnwyd ar y cyd rhwyng yr Ysgol, Cylch Meithrin a’r Clwb Ffermwyr Ifanc.

Cafodd y diwrnod ei gynnal yng Nghae Chwarae’r Pentref. Llywyddion y dydd oedd Mr a Mrs Emyr Evans, Cefncoed. Cyflwynodd Annwen Evans blat ar ran y CRA i’r llywyddion.

Cafwyd amser wrth eu boddau yn beirniadu’r gystadleuaeth gwisg ffansi.

Eleni, gwnaeth 4 cymeriad pwysig ymweld â’r plantos sef Skye a Chase o ‘Paw Patrol’, Sali Mali a Sam Tân. Roedd y plant wrth eu boddau yn gweld y cymeriadau ar y cae.

Roedd y diwrnod yn un llwyddiannus a hoffai Pwyllgor  Cymdeithas  Rhieni ac Athrawon yr Ysgol, Pwyllgor y Cylch Meithrin  a’r Clwb Ffermwyr Ifanc ddiolch i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd at lwyddiant y dydd.