Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Capel y Groes ar ddydd Mercher, Ebrill 4ydd. Roedd hi’n ddiwrnod digon gwlyb allan ond roedd yna gynhesrwydd tu mewn. Beirniaid y dydd oedd: Cerdd – Davinia Davies, Bancffosfelen; Llên a Llefaru – Terwyn Tomos, Llandudoch; Celf – Molly a Robert Blayney, Pontsian. Roedd y beirniaid wedi eu plesio yn fawr gyda safon y cystadlu gydol y dydd. Y cyfeilydd eleni eto oedd Lynne James, o Gastell Newydd Emlyn.
Cadeirydd yr Eisteddfod, sef Manon Richards, gyflwynodd Lywydd yr Eisteddfod sef Mrs Doreen Sisto o Abergorlech. Cafwyd ganddi araith bwrpasol yn sôn am aelodau o’i theulu sy’n gorwedd yn y fynwent a derbyniwyd rhodd hael ganddi tuag at yr achos. Cyflwynodd Manon fasged hardd o flodau yn rhodd i Doreen ar ran pwyllgor yr Eisteddfod.
Dyma enwau enillwyr y dydd:
Cyfyngedig
Canu dan 8 oed – Noa Potter-Jones, Drefach. Adrodd dan 8 oed – Mari Gwenllian Evans, Blaencwrt. Canu ac Adrodd 8 oed tan gadael ysgol gynradd – Elan Jenkins, Alltyblaca.
Plentyn mwyaf addawol yn y cystadlaethau cyfyngedig – Elan Jenkins, Alltyblaca.
Agored
Parti Canu i Ysgolion Cynradd neu Ysgolion Sul – Ysgol Dyffryn Cledlyn. Parti Cydadrodd i Ysgolion Cynradd neu Ysgolion Sul – Ysgol Dyffryn Cledlyn.
Unawd ac Adrodd dan 6 oed – Celyn Fflur Davies, Llandyfriog. Unawd ac Adrodd 6 – 8 oed – Gwennan Owen, Llanllwni. Unawd ac Adrodd 8 – 10 oed – Beca Elan Ebenezer, Cellan. Unawd 10 – 12 oed –Alaw Jones, Talgarreg. Adrodd 10 – 12 oed –Alwena Owen, Llanllwni. Canu Emyn dan 12 – Alaw Jones, Talgarreg. Unawd ar unrhyw Offeryn Cerdd gan gynnwys y piano dan 12 oed –Alwena Owen, Llanllwni. Canu Emyn 12 – 16 oed – Sara Elan Jones, Cwmann. Darllen o’r Ysgrythur dan 16 oed – Glesni Haf Morris, Llanddeiniol. Penillion dan 16 oed – Glesni Haf Morris, Llanddeiniol. Unawd 12 – 16 oed – Sara Elan Jones, Cwmann. Adrodd 12 – 16 oed – Glesni Haf Morris, Llanddeiniol. Deuawd dan 16 oed – Hanna ac Elan. Unawd ar unrhyw offeryn cerdd [gan gynnwys y piano] 12 – 16 oed – Sara Elan Jones, Cwmann. Unawd ac Adrodd 16 – 21 oed – Sioned Howells, New Inn. Sgen ti Dalent – Sioned Howells, New Inn. Canu Emyn Agored – Elin Fflur Jones, San Clêr. Her Adroddiad dros 21 oed – Maria Evans, Alltwalis. Unawd allan o unrhyw Sioe Gerdd – Sioned Howells, New Inn.
Llenyddiaeth
Cadair i rai o dan 21 oed [rhoddedig gan Meinir, Iwan, Ann, Elfed a’u teuluoedd i gofio am eu rhieni, Alan a Ceinwen Jenkins, Ceulan, Maestir] – Sioned Howells, Pantglas, New Inn.
Stori neu gerdd dan 16 oed – Hedd Dafydd, Ysgol Henry Richard
Barddoniaeth neu Stori – Cyfnod Sylfaen – Twm James, Tregaron
Barddoniaeth neu Stori CA2 – ‘Sosban’
Cân ysgafn neu ddychan – Mary Morgan, Llanrhystud a Megan Richards, Aberaeron
Cerdd ar fydr ac odl – Carys Briddon, Tre’r Ddôl
Ysgrif neu Draethawd – Carys Briddon, Tre’r Ddôl
Brawddeg yn defnyddio enw unrhyw wlad – Megan Richards, Aberaeron
Limrig – Iwan Thomas, Rhandir, Ciliau Aeron
Brysneges neu neges Trydar – Megan Richards, Aberaeron
Pennill i ofyn ffafr – Iwan Thomas, Rhandir, Ciliau Aeron
Celf
Bonet Basg Cyfnod Sylfaen – Elliw Grug Davies, Llanybydder
Collage ‘Fy Niddordebau’ Cyfnod Sylfaen – Sara Marged, Dihewyd
Bonet Basg CA2 – Lucy Moyes, Ysgol Dyffryn Cledlyn
Collage ‘Fy Niddordebau’ CA2 – Fflur Meredith, Llanbed
Mae Eisteddfod Capel y Groes yn symud ymlaen gyda’r oes a bellach mae gyda’r Eisteddfod dudalen Facebook – Eisteddfod Capel y Groes ac hefyd cyfrif Trydar @CapelyGroes – cofiwch ddilyn rhain! Rhoddwyd y canlyniadau drwy gydol y dydd ar y gwefannau cymdeithasol yma.
Diolch i bawb am gefnogi’r eisteddfod eleni eto ac yn arbennig i’r noddwyr am eu rhoddion ariannol tuag at y diwrnod. Diolch yn fawr iawn i bawb a wnaeth ddod i gystadlu eleni a gobeithio y gwelwn ni chi eto y flwyddyn nesaf!