Fy Nigwyddiad Elusennol

gan Iwan Evans

Ers blynyddoedd, rwyf wedi eisiau gwneud rhywbeth mawr er mwyn codi arian ar gyfer elusen, a dwy flynedd yn ôl penderfynais y byddem yn tyfu fy ngwallt. Roedd hi’n broses hir, efo fy ngwallt yn mynd i edrych yn gyrliog, wedyn fel mop, cyn cyrraedd ’manbun’ am yr hanner blwyddyn dwethaf. Roeddwn i’n cael pobl yn aml yn fy annog i dorri fy ngwallt, felly penderfynais ym mis Tachwedd y byddwn yn torri’r cwbl i ffwrdd ar ddiwedd y flwyddyn.

Ar y 28ain o Ragfyr, fe wnes i gymryd y siswrn a mynd o Iwan Manbun, i Iwan Bald. Cynhaliwyd noson Rasus Ceiliogod yng Nghlwb Rygbi Llambed – roedd llawer o sbort a chefnogaeth arbennig, cyn i fi “brave the shave” fel dwedan nhw.

Cefais gefnogaeth aruthrol gan bawb. Gwnaeth llawer o bobl roi’n hael iawn tuag at yr achos, ac oherwydd eu caredigrwydd, fe wnaethom ni godi dros £2,500 ar gyfer Cancer Research UK ac Alzheimer’s Society. Mae gwaith y ddwy elusen yn hynod o bwysig i fy nheulu, ac hoffwn ddiolch, ar ein rhan ni i gyd, am eich rhoddion a’ch cefnogaeth.

Ers sawl blwyddyn bellach mae fy Mamgu wedi bod yn dioddef o Dementia sydd wedi effeithio ni fel teulu yn fawr. Roedd gwneud y digwyddiad yma er mwyn codi arian i Alzheimer’s Society, sydd yn gwneud gymaint i wella bywydau pobl efo Dementia a’u teuluoedd, yn gwneud i fi deimlo fel petawn i’n talu yn ôl i Mamgu am bopeth mae hi wedi gwneud i mi wrth i mi dyfu i fyny.

Noson Elusennol Iwan
Noson Elusennol Iwan

Mae fy nau Dadcu hefyd wedi ymladd Cancr. Bu farw un Tadcu cyn i mi gael fy ngeni, o Leukemia yn 1995. Ni chefais y siawns i gwrdd ag e, felly roedd hyn, yn fy marn i, yn ffordd o ddangos fy ngwerthfawrogiad iddo, oherwydd heblaw amdano fe, ni fydden ni yma heddiw. Mae fy Nhadcu arall wedi brwydro yn erbyn, ac ennill y frwydr yn erbyn Cancr y Prostad, ac eto, trwy wneud y digwyddiad yma, roeddwn i’n gallu diolch i Cancer Research UK am eu gwaith ysgubol yn y maes, ac hefyd i ddangos fy edmygedd o ddewrder fy Nhadcu.

Mae llawer o deuluoedd yn cael eu heffethio gan yr afiechydon erchyll yma. Rwy’n gobeithio, oherwydd caredigrwydd pawb waeth gyfrannu, y gall yr arian fynd tuag at ymchwil angenrheidiol i leihau effaith yr afiechydon ac hefyd i roi cymorth i’r rhai sydd wedi’u heffeitho ganddynt.

Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gyfrannu. Mae’r tudalennau codi arian ar y lincs isod os dymunwch gyfrannu tuag at yr achos.

https://www.justgiving.com/fundraising/iwan-evans4

https://fundraise.cancerresearchuk.org/page/iwans-giving-page`