Gwobr Genedlaethol i’r Stiwdio Brint

gan Sarah Ward
Ashley a Sarah yn cael eu cyflwyno gyda thystysgrif a tlws y Fujifilm Business Excellence Award 2018 gan Peter Wigington, un o rheolwyr Fujifilm yn y DU.
Ashley a Sarah yn cael eu cyflwyno gyda thystysgrif a tlws y Fujifilm Business Excellence Award 2018 gan Peter Wigington, un o rheolwyr Fujifilm yn y DU.

Cynhaliwyd Cyhadledd Genedlaethol blynyddol Fujifilm UK ar yr 17eg o fis Mawrth yng nghanolbarth Lloegr, ac er na allai Ashley na finnau fynychu’r digwyddiad eleni, daeth newyddion yr wythnos ddiwethaf bod Y Stiwdio Brint wedi cael y fraint o dderbyn un o wobrwyon uchel-barchus Fujifilm UK – y Business Excellence Award 2018.

Mae Fujifilm yn y DU yn bartner i 192 o siopau print ffotograffig annibynnol, ac mae pedwar siop yn cael eu dewis i dderbyn y wobr yn flynyddol ar ôl cael eu aml-asesu mewn nifer o gategorïau heb yn wybod i’r siopau eu hun.

Dywed Peter Wigington, rheolwr marchnata Fujifilm yn y DU am y wobr: “It is such a great pleasure to present Sarah and Ashley with our Fujifilm Independent Retail Partner ‘Business Excellence’ award. As one of only four winners of the ‘Business Excellence’ award, this is a testament to the dedication and sheer year-round hard work they both put into running a successful photo retail store and to the exceptional efforts they make in promoting photo imaging products and services to the local community.

Mae cael ein cydnabod yn genedlaethol am ein gwaith fel busnes bach Cefn Gwlad yn ein hail flwyddyn o fasnachu yn anrhydedd nad oeddem wedi’i ddisgwyl, ac rydym yn ddiolchgar i’r gymuned leol sy’n ein cefnogi fel busnes ac yn ein galluogi i weithio mewn ardal mor hyfryd â Llambed.