Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi enwi’r fenyw a fu farw yn dilyn ymosodiad yn Llanbed tua 6 o’r gloch Dydd Iau diwethaf.
Bu farw Katarzyna Paszek, neu Kasia fel ei hadnabyddwyd, yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad difrifol mewn tŷ yn Stryd y Bont. Roedd hi’n 39 oed.
Dywed ei theulu ei bod yn “fam, merch, chwaer a modryb a oedd yn cael ei charu gan nifer”.
Mewn datganiad, maen nhw’n apelio am “amser i alaru nawr, ac r’yn ni’n gofyn am gael gwneud hynny mewn preifatrwydd,”
Mae un dyn, 40 oed, yn parhau yn y ddalfa ac un dyn arall, 27 oed, wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd DCI Anthony Evans: “Mae hyn nawr yn ymchwiliad i lofruddiaeth ac rwyf yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad.” Gellir cysylltu â’r heddlu drwy ffonio 101.
Ychwanegodd “Hoffwn sicrhau’r cyhoedd nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.”
Cyhoeddwyd heno hefyd y bwriedir cynnal gwylnos ar Sgwâr Harfod Llanbed nos Sadwrn yr 17eg Tachwedd fel teyrnged i Kasia ac mewn cefnogaeth i’w phlant a’i theulu.
Dywedodd Angela Wild sy’n trefnu’r wylnos “Mae’r gymuned Pwylaidd, Cymreig a Saesneg yn Llanbed a’r ardal yn amlwg yn synnu ac yn rhyfeddu at y newyddion am lofruddiaeth Kasia Paszek.
“Mae’r wylnos hon yn gyfle i bobl ddangos eu cefnogaeth i deulu’r dioddefwr yn ogystal â ffordd o dynnu sylw at yr ystadegau syfrdanol o ran trais yn y cartref. Yn y DU heddiw, mae 2.6 o ferched yn cael eu llofruddio gan ddynion bob wythnos.
Ychwanegodd “Nid yw marwolaeth Kasia yn achos ynysig, Ein nod yw ymestyn at fenywod lleol a allai fod mewn amgylchiadau tebyg gan eu hannog i gael help os ydynt mewn perygl.”
Gofynnir i bawb ddod â channwyll gyda nhw erbyn 5 o’r gloch nos Sadwrn.