Llwyddiant Lleol – Eisteddfod CFfI Sir Gâr 2018

gan Sian Elin

 

Sioned a Carwen
Sioned a Carwen

Yn Eisteddfod CFfI Sir Gâr nos Sadwrn 20/10/18, Carwen Richards o Glwb Dyffryn Cothi enillodd y gadair am ysgrifennu cerdd am Yr Arfordir, a Sioned Bowen o Glwb Llanllwni enillodd y goron am ysgrifennu darn o ryddiaith ar thema Y Cwm.

Mae Carwen Richards yn byw yn ardal Ffarmers ac yn athrawes addysg gorfforol yn Ysgol Uwchradd Aberaeron, a Sioned o ardal Llanfihangel yr Arth ond yn astudio Cymraeg Proffesiynol yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mi ddaeth crin dipyn o lwyddiant i Glybiau Ffermwyr Ifanc ardal Clonc yn yr Eisteddfod eleni gydag unigolion a nifer o eitemau yn cyrraedd y 3 uchaf.

Roedd y sgetsis oll yn donic i bawb ar noson gyntaf y cystadlu ar y 12fed o Hydref gyda Chlybiau Llanllwni a Dyffryn Cothi yn serenni unwaith yn rhagor. Llanllwni yn cipio’r ail wobr a Dyffryn Cothi yn dod yn drydydd. Gwelsom dalent lleol ar ei gorau yna wrth i Alpha Evans, Clwb Cwmann ddod yn drydydd yn yr Unawd offerynnol ac Elan Jones hefyd o Glwb Cwmann yn dod yn drydydd yn yr Alaw Werin.

Alpha a Sara Elan, Clwb Cwmann.

Yna ar yr ail Nos Wener 19/10. Clwb Llanllwni ar wib unwaith yn rhagor gyda Sioned Howells yn derbyn y drydedd wobr yng nghystadleuaeth y Canu Emyn, a’r criw Dawnsio Gwerin hefyd yn cipio’r drydedd wobr. Hyfryd oedd gweld hefyd clod mawr i Glwb Dyffryn Cothi a Llangadog yng nghystadleuaeth y Côr Cymysg wrth iddynt gipio’r trydydd safle.

Ar Ddydd Sadwrn y 20fed o Hydref gwelwyd cystadlu brwd unwaith yn rhagor yn Neuadd San Pedr Caerfyrddin gydag Elan Jones, Clwb Cwmann yn troedio’r llwyfan ac yn derbyn nifer helaeth o wobrau:- Ail yn y Canu Unigol 16 ac iau, a cyntaf yn y Llefaru 18 ac iau. Lois Thomas o glwb Llanllwni yna’n cipio’r ail wobr yng nghystadleuaeth yr Unawd 21 ac iau a Carwen George yn ennill yng nghystadleuaeth Unawd 26 ac iau.

Gwelsom bawb yn tynnu ynghyd yng nghystadlaethau grŵp, gyda Chlwb Cwmann yn derbyn yr ail wobr yn y Dawnsio Cyfoes a Dyffryn Cothi yn derbyn y drydedd wobr. Clwb Llanllwni yna’n cipio’r wobr gyntaf yn y parti llefaru a thrydydd yn y meim.

I fyd comedi yr awn nesa gan longyfarch Deian Thomas, Dyffryn Cothi am ennill cystadleuaeth y Stand Yp ac i Owain Davies, Clwb Llanllwni am dderbyn y drydedd wobr, ac yna chwerthin mawr oedd yn y neuadd wrth wylio cystadleuaeth o safon uchel iawn sef :- Deuawd/ Triawd Doniol gyda’r deuawd adnabyddus Deian ac Eirwyn o Glwb Dyffryn Cothi yn ennill y drydydd safle a’r triawd o Lanllwni Hefin, Siriol ac Ifor yn ennill yr ail safle.

Clwb Llanllwni
Clwb Llanllwni

Wedi tridiau o gystadlu brwd mi ddaeth y canlyniadau. Llongyfarchiadau mawr iawn i Glwb Dyffryn Cothi am dderbyn y drydydd safle am y nifer uchaf o bwyntiau Gwaith Cartref, ond yn cipio’r wobr cyntaf ac yn derbyn Tarian Elonwy Phillips oedd Clwb Llanllwni a hefyd cipiodd yr ail safle ar ddiwedd yr holl gystadlu gan dderbyn Tarian hyfryd Nantabwla. Llongyfarchiadau mawr i chi.

Llongyfarchiadau gwresog i bawb, a phob lwc i bawb fydd yn cynrychioli’r Sir yn Eisteddfod CFfI Cymru yn y Barri ddiwedd Mis Tachwedd. Hyfryd gweld mudiad fel y Ffermwyr ifanc yn mynd o nerth i nerth, gan rhoi platfform arbennig i gymunedau a phobl ifanc yr ardal.