Yn dilyn ystyriaeth fanwl Llywodraethwyr Ysgol Bro Pedr o’r ymatebion i’r ymgynghoriad diweddar ynglŷn â’r wisg Ysgol, y penderfyniad yw na fydd crys a thei yn cael eu cyflwyno o Fedi 2019 ymlaen ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 7 – 11.
Serch hynny, cyhoeddwyd y bwriedir newid ychydig o wisg Ysgol y Chweched Dosbarth o Fedi 2019 ymlaen drwy gyflwyno crys gwyn a thei (traddodiadol) porffor.
Roedd Cyngor yr Ysgol a’r Llywodraethwyr wedi cyhoeddi eu bod am newid rywfaint ar y wisg Ysgol ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 7 – 13. Roedd hyn yn golygu y byddai’r wisg ysgol yn fwy ffurfiol.
Y newidiadau arfaethedig oedd:
Blwyddyn 7-11: crys piws golau, tei clip-on gyda streip llwyd/porffor
Blwyddyn 12-13: crys gwyn a thei porffor tywyll (gyda logo’r Ysgol)
Byddai’r newid yma wedi golygu mai ond yn nhymor yr Haf y byddai hawl gyda’r disgyblion i wisgo’r crys polo porffor (neu grys polo gwyn, yn achos y Chweched Dosbarth).
Roedd yr ysgol wedi gofyn am adborth gan rieni a warcheidwaid erbyn 29 Mehefin, a chyhoeddwyd yr wythnos hon mai dim ond newid i wisg ysgol y Chweched Dosbarth fydd yn digwydd.
Beth yw’ch barn chi am hynny? Oes angen newid gwisg y Chweched Dosbarth? Beth am weddill yr ysgol?
Gan fod y tywydd wedi bod mor dwym yn yr wythnosau diwethaf, bu’r ysgol mor hyblyg a phosib. Roedd hawl gan y disgyblion wisgo trowsusau byrion plaen, du wedi’u teilwra hyd y ben-glin tan ddiwedd tymor, os oedd y disgyblion yn dymuno gwneud hynny.