Sioe Gorsgoch a C.Ff.I Llanwenog 2018

gan Sara Hatcher

Cynhaliwyd 38ain Sioe Amaethyddol, Cynnyrch, Ceffylau a Hen Beiriannau Gorsgoch a C.Ff.I. Llanwenog ar gaeau Glwydwern, Llanwnnen, trwy garedigrwydd Elfyn a Sharon Morgans ar ddydd Sadwrn, 18fed o Awst.

Prif elusennau y sioe eleni oedd Uned Ffisiotherapi Ysbyty Dydd y Priory, a Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Ceredigion.

Ynghyd â’r cystadlaethau yn y babell ac ar y cae, cafwyd arddangosfa sgiliau cŵn, mabolgampau i blant, cynnyrch alpaca gan ‘Bird Farm Alpacas’, paentio wynebau ac ocsiwn lwyddiannus iawn yng ngofal Eifion Morgans. Am y tro cyntaf yn hanes y Sioe, cafwyd Sioe Gŵn lle bu llawer o gystadleuwyr brwd. Yna, cafwyd noson llawn sbort a sbri gyda’r ‘Welsh Whisperer’, castell neidio a bwrdd syrffio.

Er mawr foddhad i aelodau’r pwyllgor a chefnogwyr y sioe, cafwyd ysbeidiau heulog a sioe lwyddiannus iawn o ran niferoedd a safon y cystadlu. Cyflwynwyd y gwobrau gan y Llywyddion, Mr a Mrs Daniel Evans, Tandderi, Llanwenog, i’r canlynol:

CEFFYLAU: Ceffylau mewn llaw – Pencampwr – Matthew Dixon, New Foundry, Ffosyffin (Maellwch Madam Heartbreaker). Is-bencampwr – Dai Evans, Clogfryn, Aberaeron (Trehewyd Gwen); Marchogaeth – Pencampwr – Nikki Bond, Cwmplas Stud, Coedybryn, Llandysul (Edma Manon Haf). Is-bencampwr – Oliver Burbage, (Carygwyn Sincerity); Hynodion y Ceffylau – Sophie Evans; Pencampwr yr adran geffylau, ac yn derbyn cwpan Hang-On yn roddedig er cof am Tim a Dorothy Thomas, Ffynon Rhys – Matthew Dixon, New Foundry, Ffosyffin gyda Maellwch Madam Heartbreaker a ddangoswyd gan Calvert Williams.

DEFAID: Defaid Llanwenog – Pencampwr – Huw Evans, Alltgoch (hwrdd). Is-bencampwr – Huw Evans, Alltgoch (dafad). Gwobr Cymdeithas Defaid Llanwenog – Huw Evans, Alltgoch (hwrdd). Defaid Speckled – Pencampwr – Elfyn a Sharon Morgans, Glwydwern (hwrdd). Is-bencampwr – Jones, Blaenblodau (dafad). Defaid Continental – Pencampwr – Jones, Blaenblodau (oen). Is-bencampwr – Teulu Tyngrug Isaf (dafad). Unrhyw frîd “Lowland” arall – Pencampwr– Teulu Tyngrug Isaf, (dafad croes). Is-bencampwr – Teulu Glwydwern (dafad) Unrhyw frîd mynyddig arall – Pencampwr ac Is-bencampwr – Gafryw, Mydroilyn (hwrdd ac oen). Oen i’r cigydd – Pencampwr– Owain Jones, Blaenhirbant, Cwmsychpant. Is-bencampwr- Neuadd, Llanwnnen. Pencampwr y Pencampwyr yr adran ddefaid, ac yn ennill cwpan her Wyn Morgans, Glwydwern – Teulu Morgans, Glwydwern. Arddangosydd gorau – Ffion Williams, Penycoed, Caerfyrddin. Barnu Wyn Tew C.Ff.I – Owain Jones, Blaenhirbant, Cwmsychpant.

HEN BEIRIANNAU: Pencampwr, ac yn ennill cwpan her Jim Evans, Fronwen – Eirian Evans, Y Ddôl, Alltyblaca.

GWARTHEG BIFF: Pencampwr –Teulu Morgans, Glwydwern, Llanwnnen (eidon). Is-bencampwr – Teulu Morgans, Glwydwern, Llanwnnen (buwch gyda llo).

GWARTHEG GODRO: Pencampwr – Teulu Williams, Clyncoch, Cwrtnewydd (buwch sych). Is-bencampwr – Teulu Williams, Clyncoch, Cwrtnewydd (treisiad mewn llaeth). Enillydd y fuwch neu treisiad odro orau o fuches di-linach, ac yn derbyn Cwpan Her Ffynnonrhys – Teulu Tyngrug Isaf, Cwmsychpant.

SIOE GŴN: Pencampwr- Ann Cooper, Llanfyrnach (Jay)

Y BABELL: Cynnyrch Gardd – Bessie Williams, Clyncoch, Cwrtnewydd; Coginio – Gwyneth Morgans, Pensarnau, Llanwnnen; Gwinoedd – Margaret Jones, Cae Glas, Cwrtnewydd; Cyffaith – Margaret Jones, Cae Glas, Cwrtnewydd; Gwaith Llaw – Eluned Davies, Bryniau, Dihewid; Blodau – Andrew Davies, Llandysul; Cystadlaethau 18 oed neu iau – Nia Morgans, Glwydwern, Llanwnnen; Cystadlaethau 26 oed neu iau – Lauren Jones, Awel y Gors, Gorsgoch; Adran Plant Ysgol Gynradd: Blwyddyn 6 neu iau – Lleucu Thomas, Blaenporth; Blwyddyn 2 neu iau – Alaw Mai Edwards, Dol Fedw, Llanybydder; Ysgol â’r marciau uchaf yn yr adran arlunio, ac yn ennill tarian her Cyngor Cymuned Llanwenog – Ysgol Dyffryn Cledlyn; Cwpan Her Blaencathal, am focs o gynnyrch gardd – Bessie Williams, Clyncoch, Cwrtnewydd; Pencampwr y babell, ac yn ennill cwpan her Malcolm Fuller – Margaret Jones, Cae Glas, Cwrtnewydd.

Hoffai pwyllgor y sioe ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ac edrychwn ymlaen at groesawi pawb yn ôl i’r sioe y flwyddyn nesaf ar ddydd Sadwrn 17eg o Awst 2019.