Taith Dractorau CFFI Llanllwni

gan Sara Thomas

Ar ddydd Sul y 4ydd o Dachwedd cynhaliwyd taith dractorau i gloi dathliadau 75 mlynedd Clwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni.

Ar ôl wythnosau o baratoi – trefnu’r daith, peintio’r arwyddion a’r teiars, casglu gwobrau raffl ac ocsiwn, paratoi’r bwyd a thorri’r llysiau ar gyfer y cawl, roedd y diwrnod mawr wedi cyrraedd. Roedd y cymylau’n ddu a’r glaw yn diferu am saith o’r gloch ar fore ddydd Sul a theimla phob un ohonom atgasedd tuag at y tywydd am ei bod hi’n gorfod bwrw ar y diwrnod hwnnw. Er hyn, roedd rhaid mynd ymlaen â’r sioe!

Y Llywydd, Mr Wyn Thomas yn ei dractor
Ein Cadeirydd, Hefin Jones yn arwain y daith

Roeddem yn ddiolchgar iawn bod to dros ein pennau mewn sied ar iard T. L. Thomas ar gyfer man cychwyn y daith, er mwyn paratoi brecwast blasus i’r gyrrwyr, cynnal yr ocsiwn a chroesawu ein llywydd am y dydd. Pwy gwell oedd cael fel llywydd i’r diwrnod mawr yma ond Mr Wyn Thomas, Brynllo Fawr, Llanybydder, cyn-aelod brwdfrydig iawn yng Nghlwb Llanllwni ac un sydd yn hoff iawn o fynd ar deithiau tractorau yn yr ardal.Rydym yn ddiolchgar iawn iddo am ei rodd hael.

Skanda Vale

Erbyn hanner awr wedi deg, diolch byth, roedd y glaw wedi peidio, 47 tractor yn eistedd yn bictiwr amryliw ar yr iard, roedd yr ocsiwn yn ei hanterth ac yn amser i ymadael. Hefin, ein cadeirydd oedd yn arwain y daith, aethant lawr am Faesycrugiau, draw am Lanfihangel-Ar-Arth, lawr i Bencader a thrwy Dolgran cyn mynd drwy’r allt i Skanda Vale. Hoffai’r clwb ddiolch yn fawr i Skanda Vale am eu croeso cynnes, yn sicr fe wnaeth bawb fwynhau yno yn gweld yr eliffantod a’r anifeiliaid eraill a phrofi diwylliant gwahanol. Ar ôl pit-stop roedd yn bryd parhau â’r daith, nôl am New Inn ac i fyny i fynydd Llanllwni i weld golygfeydd hyfryta Sir Gâr cyn dychwelyd i Neuadd yr Eglwys, Maesycrugiau am wledd o gawl blasus, phwdin, tê a chacennau.

Ar ddiwedd y daith

Cafwyd ddiwrnod llwydiannus dros ben a chodwyd £2,852.33 i goffrau’r clwb a thuag at Hosbis Skanda Vale. Diolch yn fawr iawn i bawb a fu ynghlwm â’r trefniadau ac i bob un wnaeth gyfrannu mewn unrhyw fodd i wneud yn ddiwrnod bythgofiadwy. Diolch hefyd i’r aelodau fu’n brysur yn defnyddio’r drone a thynnu lluniau ar hyd y daith er mwyn creu’r fideo arbennig yma i grynhoi’r diwrnod.