Tîm Swyddogion Newydd Ysgol Bro Pedr

gan alphaevans
Siencyn

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, cafodd tîm newydd o Brif Swyddogion eu hapwyntio yn Ysgol Bro Pedr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2018-2019. Ar ôl llenwi ffurflen gais, etholiad ymysg disgyblion blwyddyn 12 ac athrawon a chyfweliad gyda’r panel apwyntio, penderfynwyd apwyntio Siencyn Jones a Max Parry yn Brif Fechgyn, a’u dirprwyon; Cerys Pollock, Cari Jones, Mari Lewis, Osian Jones a Cyffin Thomas. Mae’r tîm swyddogion yn cyfrannu llawer at fywyd yr ysgol trwy gydol y flwyddyn, gan gynrychioli’r ysgol mewn sawl digwyddiad mewnol ac allanol.

Aelod brwdfrydig o’r chweched yw Siencyn Jones, o Ffair Rhos. Mwynha Siencyn chwarae pêl-droed ac mae’n chwarae i Sêr Dewi a thîm Bow Street. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Siencyn wedi bod yn aelod o Gyngor Ieuenctid Ceredigion gan gyfrannu’n fawr at drafodaethau a gweithgareddau. Enillodd Siencyn y siaradwr gorau yng nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus y Rotari yn gynharach eleni.

Max

Aelod gweithgar o’r chweched yw Max Parry o Lanllwni. Mae Max wedi cynrychioli ei flwyddyn ar gyngor yr ysgol sawl gwaith ac wedi cymryd rhan blaenllaw yn y cyfarfodydd ac helpu i drefnu gweithgareddau o fewn yr ysgol. Cynrychiola Max Gymru ar bwyllgor ‘Youth Select’ a bu hefyd yn cyd-weithio’n frwd gydag aelodau eraill o dîm Dulas yn Eisteddfod yr Ysgol eleni fel un o’r is-gapteiniaid. Mwynha Max chwarae rygbi i Glwb Rygbi Llanbed a chymdeithasu gydag eraill.

Ymddiddora Cerys Pollock o Gwmsychpant ym myd celf a chrefft ac mae wedi ennill amryw o wobrau am ei gwaith gan gynnwys y 3ydd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. Bu Cerys yn un o arweinwyr Clwb Cymraeg yr ysgol eleni, lle bu’n gweithio gydag eraill i hybu’r Gymraeg yn yr ysgol. Yn ogystal â’r Clwb Cymraeg, roedd Cerys yn un o is-gapteiniaid Dulas yn Eisteddfod yr Ysgol eleni. Yn ei hamser hamdden, mwynha Cerys chwarae hoci i Glwb Hoci Llanybydder.

Cari Jones o Gwmann, oedd capten Teifi yn Eisteddfod yr Ysgol eleni a chydweithiodd yn ddiwyd gydag aelodau eraill y tîm gan arwain Teifi i fuddugoliaeth ar ddiwedd y cystadlu. Mae Cari’n cyfrannu at fywyd yr ysgol trwy helpu gyda chlybiau a chymryd rhan mewn amryw o weithgareddau. Gweithia Cari’n rhan amser mewn caffi lleol ac mae’n mwynhau cymdeithasu, cwrdd â phobl newydd a datblygu sgiliau.

Aelod talentog o’r chweched yw Mari Lewis  o Gwmann, sef capten Creuddyn yn Eisteddfod yr Ysgol eleni yn ogystal ag un o arweinwyr y Clwb Cymraeg yn yr ysgol. Mae Mari yn hoff o gerddoriaeth ac wedi sefyll gradd 5 telyn a gradd 3 piano ac yn mwynhau dawnsio yn ysgol ddawns Sally Saunders. Yn ogystal â chyfrannu’n ddiddarfod at fywyd yr ysgol, mwynha Mari helpu gyda’r busnes teuluol, W. D. Lewis.

Mae Osian Jones o Gwmann yn aelod gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Cwmann ac yn mwynhau cymdeithasu. Osian oedd is-gapten Teifi ac un o lysgenhadon yr Urdd yn yr ysgol eleni a buodd yn hyrwyddo mudiad yr Urdd yn yr ysgol. Mwynha Osian chwaraeon yn fawr wrth iddo chwarae rygbi i Glwb Rygbi Llanbed ac mae hefyd yn chwarae i dîm Sir Ceredigion, yn ogystal a chwarae criced i dîm Llanbed.

Rhagora Cyffin Thomas o Lanfair Clydogau ym myd sgïo ac mae’n un o gynrychiolwyr Chwaraeon Eira Cymru. Mae hefyd yn gweithio i’r Urdd fel hyfforddwr sgïo. Chwaraea Cyffin griced i dîm Aberaeron yn ei amser hamdden. Yn ogystal â’i ddiddordeb mewn chwaraeon, mae Cyffin yn aelod o Gyngor yr ysgol a Chyngor Ieuenctid Ceredigion ac wedi bod ar gwrs ar gyfer Arweinwyr Ieuenctid y Rotari.

Yn union fel arwyddair yr ysgol, ‘A fo ben bid bont’- bydd y saith yn bont i ddisgyblion yr ysgol ac yn arweinwyr cadarn. Llongyfarchiadau mawr i’r saith ohonynt, a dymuniadau gorau iddynt ar gyfer blwyddyn prysur a dymunol ym Mro Pedr!