Disgybl o Ysgol y Dderi’n ennill gwobrau wythnosau ar ôl cael ei ladd
Mae bachgen 11 oed o Ysgol y Dderi, Llangybi, a fu farw mewn damwain angheuol, wedi ennill gwobrau mewn dwy o gystadlaethau gwaith cartref Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed.
Bu farw Tristan Silver ddechrau Mai ar ôl derbyn anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A485 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Thregaron.
Cyn ei farwolaeth, roedd wedi cystadlu ar y cyd â’i gyd-ddisgybl, Nial Hyde, yng nghystadleuaeth ‘Creu Ap Blwyddyn 6 a Iau’ ar gyfer Eisteddfod yr Urdd ac ar greu pyped.
Mewn seremoni gwobrwyo ar Faes y Sioe, fe gyhoeddwyd mai’r ddau o Ysgol y Dderi oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth. Fe gafodd y medalau eu casglu yn y seremoni gan chwaer Tristan Silver a Nial Hyde.
Roedd hefyd wedi dod yn drydydd gyda’r pyped.
Os na lwyddoch i ymweld â’r arddangosfa Gelf a Chrefft yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd eleni, dyma weithiau enillwyr lleol eraill: