Tristwch gwobrau Tristan

Dylan Iorwerth
gan Dylan Iorwerth
Tristan Silver, Ysgol Y Dderi, Bl 5 a 6, Pyped - 3ydd
Tristan Silver, Ysgol Y Dderi, Bl 5 a 6, Pyped – 3ydd

Disgybl o Ysgol y Dderi’n ennill gwobrau wythnosau ar ôl cael ei ladd

Mae bachgen 11 oed o Ysgol y Dderi, Llangybi, a fu farw mewn damwain angheuol, wedi ennill gwobrau mewn dwy o gystadlaethau gwaith cartref Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed.

Bu farw Tristan Silver ddechrau Mai ar ôl derbyn anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A485 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Thregaron.

Cyn ei farwolaeth, roedd wedi cystadlu ar y cyd â’i gyd-ddisgybl, Nial Hyde, yng nghystadleuaeth ‘Creu Ap Blwyddyn 6 a Iau’ ar gyfer Eisteddfod yr Urdd ac ar greu pyped.

Mewn seremoni gwobrwyo ar Faes y Sioe, fe gyhoeddwyd mai’r ddau o Ysgol y Dderi oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth. Fe gafodd y medalau eu casglu yn y seremoni gan chwaer Tristan Silver a Nial Hyde.

Roedd hefyd wedi dod yn drydydd gyda’r pyped.

Os na lwyddoch i ymweld â’r arddangosfa Gelf a Chrefft yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd eleni, dyma weithiau enillwyr lleol eraill:

Fflur Meredith, Ysgol Bro Pedr, Bl 3 a 4, Gwehyddu – 2il
Manon Williams, Ysgol Bro Pedr, CADCAM, Bl10 a dan 19 – 1af
Fflur Meredith, Ysgol Bro Pedr,Creu Arteffact, Bl 3 a 4 – 2il
Ysgol y Dderi – Gwaith Creadigol 3D, Blwyddyn 2 ac Iau – 3ydd
Steffan Jarman, Ysgol Gymuned Dyffryn Cledlyn, Argraffu, Bl 5 a 6 – 3ydd
Ysgol Gynradd y Dderi, Bl 2 ac Iau, Pypedau – 1af
Anthony a Leon, Ysgol Bro Pedr, Bl 7,8 a9, ADY Cymedrol – 1af
Fflur Meredith, Ysgol Bro Pedr – 3D Tecstilau – Bl 3 a 4 – 2il