Chi’n nabod Steffan Jenkins, Tyllwyd? Ffarmwr gweithgar o ardal Llanbed yw e, ac mae’n ateb cwestiynau ar gyfer colofn ‘Cadwyn Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc y mis hwn.
Ei gyfrinach i gadw’n heini yw cneifo yn yr haf. Ei ddiod arferol yw Seidr. Cig a hufen iâ sydd yn ei oergell a’r dylanwad mwyaf arno oedd ei ddau dad-cu.
Ond beth yw ei arbenigedd? Pryd aeth e’n grac ddiwethaf? Sut mae e’n ymlacio? Beth sy’n rhoi egni iddo? Pa dri lle yng Nghymru yr hoffai ymweld â nhw cyn ei fod yn hanner cant? Datgelir y cyfan yn rhifyn Rhagfyr Papur Bro Clonc.
Pwdryn yw’r math o berson sy’n mynd o dan groen Steffan, ac mae e’n bell o fod yn bwdryn. O ddydd i ddydd, ffarmio sy’n mynd â’i amser yn ogystal â bod yn ‘Jack of all trades’ meddai ef. Wedi dweud hynny, dyn teulu yw Steffan a chyfaddefa ei fod ar ei fwyaf hapus o fod gatref gyda Sara a Gwion y mab.
Mae rhifyn Rhagfyr Papur Bro Clonc yn y siopau lleol nawr. Mynnwch gopi.