Pam mynychu’r ŵyl fwyd ar ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf?
Dyma 7 rheswm Sarah Ward…
1. Cyfle gwych i samplo bwydydd ffres, lleol ag unigryw
Mae amrywiaeth di-ri o stondinwyr yn mynychu Gŵyl Fwyd Llanbed eleni, ac mae llawer o’r rhain yn gwmnïau cyffrous a chyfoes – dewch i flasu sushi ffres Swshi, bwyd arloesol fegan Parsnipship, brechdanau grasu gourmet gan Teifi Toasties, neu tracht o ddiod gan gwmni jin Cymreig ‘Eccentric Gin’.
2. Cefnogi busnesau bach a mawr
A wyddoch chi fod cwmni dŵr ‘Llanllyr SOURCE’ yn dathlu pen-blwydd yn ugain oed eleni? Ac mai yng Ngŵyl Fwyd Llanbed wnaethon nhw lansio’u cynnyrch nhw nôl yn 1999?
Mae Gŵyl Fwyd Llanbed yn arddangos y goreuon o gynhyrchwyr bwyd a diod yr ardal, ac ysgwn i sawl o’r cwmnïau newydd-eu-ffurfio fydd yn dal i arddangos yn yr Ŵyl mewn ugain mlynedd – gyda’ch cwstwm a’ch cefnogaeth chi, tipyn dwi’n siŵr!
3. Diwrnod llawn hwyl i’r teulu oll
Does dim tâl mynediad i fynychu, ac mae llwyth o weithgareddau addas i blantos yn ogystal â’r cynigion arferol – Stepp Up Puppeteers, Ffair Mark Holmes & Son, Injan Dân ac un o dractors Gwili Jones, a glityr wyneb gan gwmni ‘Sparclo’. Mae’r babell adloniant wedi ei llenwi â dawnsio a pherfformiadau cerddorol, ac mae prynhawn difyr o arddangosfeydd coginio wedi ei drefnu, felly ma’ tipyn bach o bopeth i bawb yng Ngŵyl Fwyd Llanbed eleni!
4. Bwyd Ara’ Deg – Slow Food
Gareth Johns yw un o’n cogyddion gwadd ni eleni, ac mae e’n Gogydd Llysgennad Slow Food Cymru. Mae dilyn siwrne bwyd o’r giât i’r plat yn eitha cyffredin dyddie ma, ac mae neges Slow Food Cymru yn amlygu ymhellach bwysigrwydd ymrwymiad bwyd i’r gymuned a’r amgylchedd.
5. Cefnogi‘r ŵyl ar ei newydd wedd
Ers i dîm gweithgar o drigolion ardal Llanbed ddod at ei gilydd yn wyneb adfyd i godi arian a goruchwylio gwaith gweinyddol a dylunio, mae’r Ŵyl wedi bod mewn dwylo saff, ac mae’r prif nod o gynnal gŵyl safonol a deniadol wedi ei wireddi. Dewch i gefnogi’n ymdrechion, a chofiwch roi ceiniog neu ddwy yn y bwcedi casglu arian er mwyn helpu i gasglu cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf. Hefyd, os oes diddordeb da chi mewn ymuno â’r tîm trefnu flwyddyn nesaf, rhowch wybod – bydd croeso mawr yn eich aros chi!
6. Penwythnos ar ôl y Sioe Fawr
I’r rhai ohonoch sydd wedi cael y cyfle i joio amser yn y Royal Welsh eleni, dyma ail-gyfle i chi gwrdd â rhai o’r cynhyrchwyr a oedd yn arddangos yn y sioe. Dewch draw i weld a gewch chi ail shot ar flasu’ch hoff fwydydd a diodydd Cymreig, a phrynu digon i bara tan y ‘Dolig!
7. Lleoliad heb ei ail
Wedi ei leoli yng nghanol y dre ar gampws hyfryd y Brifysgol, mae’r Ŵyl Fwyd yn un o ddigwyddiadau pwysicaf ardal Llanbed, gydag ymwelwyr yn dod o bob cwr o’r wlad! Dewch gyda phâr o lygaid newydd, i edmygu’n tref ddeniadol a chroesawgar ni ar ei gorau!