Adroddiad cyntaf ‘Rhagorol’ i Ysgol Dyffryn Cledlyn

gan Siwan Richards

Mae addysgu, arweinyddiaeth a safonau yn Ysgol Dyffryn Cledlyn wedi cael eu disgrifio fel ‘Rhagorol’ yn ei adroddiad Estyn cyntaf.

Canfu adroddiad Estyn fod safonau; lles ac agweddau at ddysgu; addysgu a phrofiadau dysgu ac arweinyddiaeth a rheolaeth ‘
‘rhagorol’ yn yr ysgol. Canfu’r adroddiad fod gofal, cymorth ac arweiniad yn ‘dda’ yn yr ysgol.

Agorwyd Ysgol Dyffryn Cledlyn ym mis Medi 2017 ar ôl uno ysgolion cynradd Cwrtnewydd, Llanwnnen a Llanwenog. Rheolir yr ysgol gan Gyngor Sir Ceredigion ac fe’i hadeiladwyd gan ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Carol Davies yw Pennaeth yr ysgol. Dywedodd, “Rydym yn falch iawn o gyflawniad ein tîm cyfan mewn cyfnod byr ac rydym yn hynod falch bod ymdrechion y disgyblion wedi cael eu cydnabod.”

“Wrth i ni uno roedden ni’n gweithio’n galed i wrando ar ein disgyblion a’u hanghenion ac o ganlyniad daeth y ‘perthyn’ i sefydliad newydd yn antur gyffrous newydd. Hoffwn ddiolch i’r tîm cyfan am eu hymroddiad a’u hymrwymiad wrth sicrhau bod Ysgol Dyffryn Cledlyn wedi cyflawni’r canlyniadau rhagorol hyn.”

Y Cynghorydd Catrin Miles yw aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy’n gyfrifol am Wasanaethau Dysgu. Dywedodd, “Mae adroddiad cyntaf Estyn Ysgol Dyffryn Cledlyn yn gymeradwyaeth gadarn o’r gwaith caled a ddangoswyd gan staff, disgyblion a llywodraethwyr yn yr ysgol. Maent yn haeddu llongyfarchiadau mawr ar eu llwyddiant.”

“Er ei fod yn ysgol newydd, mae Ysgol Dyffryn Cledlyn eisoes yn ganolfan hapus o’r gymuned. Mae’n dangos bod rhaglen foderneiddio’r cyngor yn rhoi addysg o’r safon uchaf i blant Ceredigion.”

Caiff Estyn ei arwain gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae’n arolygu ansawdd a safonau ysgolion ledled Cymru.