Canolfan Deulu Llambed yn symud safle

gan Lampeter family centre
Canolfan Deuluol Llambed yn dathlu pen-blwydd Sali Mali.

Mae Canolfan Deuluol Llambed yng Nghanolfan Dulais, Llambed ar hyn o bryd ond yn anffodus, oherwydd bod yr adeilad yn cael ei ddymchwel ar gyfer prosiect adnewyddu mawr, bydd yn rhaid ei symud i gartref newydd dros dro.

Elusen yw’r Ganolfan Deuluol, ac mae’n dibynnu’n helaeth ar arian a roddir i’w galluogi i gynnig y gwasanaeth hwn yn y gymuned.

Mae Canolfan Deuluol Llambed ar agor 5 diwrnod yr wythnos i unrhyw deulu sydd â phlant dan 11 oed. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb, ac mae’n darparu gwasanaethau i deuluoedd mewn amgylchedd croesawgar lle na chaiff neb ei farnu.

Y nod yw datblygu’r sgiliau meithrin sydd gan deuluoedd, rhieni a gofalwyr, er mwyn gwella lles eu plant a chyfleoedd eu plant mewn bywyd. Rydym yn cynnig amrywiaeth o sesiynau drwy gydol yr wythnos, sy’n cynnwys grŵp i fabanod, clwb cinio, sesiynau iaith a chwarae i rieni a phlant bach, sesiynau chwarae rhydd, gweithgareddau crefft, a sesiynau codi pac lle byddwn yn mynd allan am dro ac yn ymweld â mannau diddorol yn y gymuned leol.

Maent hefyd yn cynnig cyrsiau Cymraeg er mwyn helpu teuluoedd sydd wedi symud i’r ardal yn ddiweddar i integreiddio yn y gymuned.

Canolfan Deuluol Llambed yn ymweld ag Hafan Deg.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r Ganolfan wedi datblygu’n wasanaeth cymorth i deuluoedd a ddefnyddir yn helaeth. Mae’n adnodd gwych sydd o fudd i’r gymuned, a gellir gweld hynny drwy ei pherthynas agos â Hafan Deg, Cylch Meithrin Carreg Hirfaen a’n Hymwelydd Iechyd lleol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, maent wedi cynorthwyo 92 o deuluoedd.

Mae angen gwneud rhywfaint o waith ar y cartref newydd dros dro er mwyn sicrhau ei fod yn addas ac yn ddiogel i’r teuluoedd. Felly, maent yn gofyn yn daer am help ar ffurf rhoddion ariannol, gwaith gwirfoddol, deunyddiau y gall pobl eu rhoi ac arbenigedd y gall unrhyw adeiladwr ei rannu â nhw.

Mae’n rhaid iddynt adael y safle presennol erbyn 1 Medi, felly mae amser yn brin iawn! Maent wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel, cartrefol a chroesawgar i’r teuluoedd a’r gofalwyr, ac o gael help gan y gymuned bydd modd troi’r cartref newydd yn hafan ddiogel.

Byddent yn ddiolchgar iawn pe baech yn cysylltu â Elin Vaughan-Miles (Cydlynydd) os gallwch gynnig help o unrhyw fath. Mae croeso i chi gysylltu drwy ffonio 01570 423847 neu anfon ebost i lampeterfamilycentre@gmail.com

Diolch yn fawr.