Fe gafodd ceffyl newydd ei ddadorchuddio heddiw ar Sgwâr Llanybydder, sef ar Ddiwrnod Ffair Santesau.
Mae’r ceffyl yn disodli’r hen un pren a wnaethpwyd gan aelodau CFfI Llanllwni pan agorodd Gardd y Mileniwm yn 2000.
Bachgen lleol Alan Davies, Pistyllgwyn, Llanybydder a gafodd y gamp o gynllunio a chreu’r ceffyl newydd’r gymuned.
Fe glywodd y rhaglen deledu Heno am y dasg a phenderfynon nhw i ddilyn yr holl broces o’r dechreuad i’r diwedd. Fe fydd yr hanes i gyd yn cael ei ddarlledu ar S4C.
Fe ddymuna’r Cyngor Cymuned a holl bobl Llanybydder ddiolch i Alan am ei holl waith ar y project yma ac yr ydym yn prowd iawn o’r ceffyl newydd sy’n cynrychioli’r Mart adnabyddus.
Mae’n atyniad arbennig i Lanybydder, ac yn harddu’r ardd hyfryd ger sgwâr y pentref.