Linesman gyda Western Power yw Gethin Davies, ac ef sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc y mis hwn. Mae e’n mwynhau bod mas yn yr awyr iach a gweithio mewn lleoliad gwahanol bob dydd.
Gethin yw cadeirydd Clwb Ffermwyr Ifanc Cwmann eleni ac ymfalchia yn llwyddiant yr aelodau. Un o’r eiliadau balchaf iddo erioed oedd bod yn rhan o dîm a enillodd gystadleuaeth y meim yn Eisteddfod CFfI Cymru llynedd. Mae e wrth ei fodd yn chwarae rygbi hefyd ac roedd yn rhan o dîm ieuenctid Llanbed wrth ennill y gynghrair yn 2017.
Ond beth yw’r cyngor gorau a roddwyd iddo? Beth yw ei hoff gludfwyd a’i ddiod arferol? Pwy oedd y dylanwad mwyaf arno a beth oedd y gwyliau gorau a gafodd? Mae’r atebion i gyd yn rhifyn Ebrill Papur Bro Clonc. Mynnwch gopi er mwyn dysgu mwy am y gŵr ifanc gweithgar a diddorol hwn.