Dyluniad Cynllun Lle Llanbed wedi ei osod ar hen ffenestr Spar

gan Sarah Ward

Wythnos yn ôl fe osodwyd murlun feinyl ar ffenestr yr hen siop Spar yn Llanbed, i gyflwyno Cynllun Lle y dref, ac i wella ar yr olygfa wael a oedd tu fewn i’r ffenstr wedi i Spar gau ei drysau sbel yn ôl.

Dyluniwyd y darlun ar y ffenest yn wirfoddol gan Sarah Ward o’r Stiwdio Brint, ac fe ariannwyd yr argraffu gan Gyngor y Dref gyda help nifer o busnesau a sefydliadau lleol.

Rhoddwyd y feinyl yn ei lle gan dîm o wirfoddolwyr, sef y Maer Ann Bowen Morgan, Gareth Harries, Sarah Ward, Meryl Thomas, Martin Maberley, a Lois o ‘Lois Designs’ (busnes newydd ar Stryd Y Bont).

Mae’r darlun yn cynnwys gwaith gwreiddiol dwy o feirdd talentog lleol, sef Sue Moules a Delor James, sydd yn canu canmoliaeth y dref a’i hanes a diwylliant cyfoethog. Mae llun drôn Ashley Ward Photography wedi ei ddefnyddio fel cefndir deniadol i’r cwbl, a hefyd ceir gwybodaeth sydd yn annog preswylwyr ac ymwelwyr i’r ardal i ymweld â thudalen Facebook Caru Llambed – Love Lampeter, er mwyn bod yn rhan o’r ymgynghoriad sydd yn mynd yn ei flaen ar y dudalen ar hyn o bryd, fesul rhannu’ch atgofion, gobeithion a phryderon am rhannau penodol o’r dref.

Felly beth yw Cynllun Lle Llanbed? Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgeisiau newydd ar gyfer adnewyddu’r system cynllunio yng Nghymru, lle gofynnir i gymunedau i weithio gyda chynghorau tref a’r awdurdod lleol tuag at wella ffocws cymunedol yn ei system gynllunio. Mae chwech tref yng Ngheredigion wedi eu hannog i weithio tuag at gyflwyno strategaeth datblygiad unigryw i’w trefi nhw, a fydd yn arwain datblygiad y trefi a sicrhau bod dymuniadau y gymuned yn cael eu hystyried yn y broses.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus fesul cyfarfod yn cael ei drefnu yn y dyfodol agos gan Grŵp Llywio’r Cynllun Lle yn Llanbed, ac fe wahoddir pryd hynny awgrymiadau a sylwadau o’r gymuned ar themâu allweddol sydd wedi codi o’r broses hyd yn hyn. Cadwch lygad mas am rhagor o wybodaeth pan ddaw e ar gael; mae’ch mewnbwn chi yn angenrheidiol i lwyddiant y prosiect.