Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn Ysgol Bro Pedr gan ddiolch i’r Pennaeth, Jane Wyn, am gael defnyddio’r ysgol.
Dyma Eisteddfod gyntaf Rhys Bebb Jones yn Gadeirydd a diolchodd yn ei anerchiad wnaeth agor yr Eisteddfod prynhawn Sadwrn 24 Awst i Delyth Morgans Phillips am ei harweiniad y dair blynedd ddiwethaf.
Meinir Ebbsworth, Prif Swyddog Addysg Cyngor Sir Ceredigion oedd y Llywydd a’i hanerchiad yn pwysleisio pa mor bwysig yw digwyddiadau fel yr Eisteddfod i gynnig cyfloeoedd i feithrin doniau’r ifanc.
Cafwyd cystadlu ardderchog ymhlith y cystadleuaethau lleol a datblygodd yn ddiwrnod cofiadwy iawn i Meinir a’r teulu oherwydd ei mab Twm Ebbsworth enillodd Gadair y Bardd dan 25 oed. Seren Cariad Bowen enillodd y Tlws Ieuenctid dan 25 oed ac yn seremoni lenyddol ola’r dydd, Martin Huws enillodd y Goron. Disgyblion Ysgol Llanllwni ddawnsiodd i’w gyfarch gyda dawns gwahanol iawn i’r ddawns flodau draddodiadol.
Daeth cystadleuthau’r Sadwrn i ben gyda ’Sgen ti Dalent? Dros 16 oed a’r ddeuawd biano gan ‘Agnetha’ ac ‘Anni-Frid’ yn swyno’r gynulleidfa a’r beirniaid ac yn fuddugol.
Capel Soar oedd lleoliad Oedfa’r Eisteddfod fore Sul gyda’r Parchedig Gareth Morgan Jones yn dewis ei destun amserol o Lyfr Genesis i drafod cyflwr ein cymdeithas a’n byd.
Seibiant wedyn hyd rhagbrofion Llais Llwyfan Llanbed yn Ysgol Bro Pedr yn y prynhawn gyda saith yn ymgeisio gerbron y beirniaid Euros Rhys Evans a Meinir Jones Parry. Y pump aeth yn eu blaen i gystadlu gyda’r hwyr am y brif wobr o £1,000 yn rhoddedig gan Dorian a Delyth a’u teuluoedd er cof am eu rhieni Gerwyn a Mary Jones, Landre, dau o hoelion wyth yr Eisteddfod hon, oedd Emyr Lloyd Jones, Llinos Haf Jones, Eiri Myfanwy Price, Elen Lloyd Roberts ac Erin Rossington.
Arweiniwyd y noson yn gelfydd gan Rhiannon Lewis, ac Eiri Myfanwy Price ddaeth i’r brig gan ennill hefyd y Tlws yn rhoddedig gan Emlyn Davies a’r teulu.
Enillydd cystadleuaeth geiriau’r emyn oedd John Meurig Edwards – daw cyfle yn 2020 i gyfansoddi tôn i’w eiriau grymus a chyfoes.
Llywydd y noson oedd Elsi Jones, Llanbedr Pont Steffan, gynt o Landdewi Brefi. Cyfeiriodd yn ei hanerchiad difyr a hwyliog, gan ddyfynnu o’r nofel ‘Rhys Lewis’, at bwysigrwydd ein diwylliant Cymraeg a Chymreig i gynnal cymdeithas iach a ffyniannus.
Gwawriodd y dydd Llun fel y Sadwrn a’r Sul yn ddiwrnod heulog braf ond ni wnaeth hynny gadw’r tyrfaoedd draw o ERTJ! Agorwyd yr Eisteddfod gan Faer a Maeres Llanbedr Pont Steffan, y Cynghorydd Rob a Mrs Delyth Phillips a’u mab annwyl Tryfan. Cyfeiriodd y Maer yn ei anerchiad at bwysigrwydd yr Eisteddfod a’r holl ddoniau i ddiwylliant ac economi’r dref a’r fro a chawsom flas o gymaint mae’r ardal yn ei olygu iddo ef a’i deulu.
Eifion Williams, Cwmann (siop Crown Stores gynt) oedd y Llywydd a’i anerchiad yn un hwyliog a didwyll. Cyfeiriodd at y diffyg stondinau gwerthu ffrwythau yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan annog Elin Jones AC a Chadeirydd Pwyllgor Gwaith Ceredigion 2020, i newid y sefyllfa yn Nhregaron! Cynigiodd hefyd newid enw’r Eisteddfod o ERTJ i ERBJ gan gyfeirio at enw’r Cadeirydd!
Iwan Bryn James enillodd y Gadair a Karina Wyn Dafis y Fedal Ryddiaith a braf iawn cael teilyngdod yn y ddwy gystadleuaeth.
Enillwyr rhai o’r prif cystadleuthau llwyfan nos Lun oedd Barry Powell (Her Unawd), Elin Haf Jones (Prif Gystadleuaeth Llefaru), Llinos Haf Jones (Alaw Werin), Joy Cornock (Lieder / Cân Gelf), Zara Evans (Darn Dramatig / Monolog) ac Emyr Lloyd Jones (Unawd Gymraeg a’r Unawd Sioe Gerdd). Ceir llawer o luniau’r cystadleuwyr yn rhifyn Medi Papur Bro Clonc.
‘Roedd y cystadlu yn y Celf a Chrefft hefyd o safon uchel ac Ysgol Bro Pedr, yn arbennig Caryl Bulman, Fflur Meredith a Maisie Wright, yn dod i’r brig.
Cafwyd hefyd ‘Talwrn y Beirdd’ bywiog a chystadleuol yn Festri Capel Shiloh nos Lun, ac i roi blas i chi o’r cystadlu yno, dyma limrig buddugol Dorian Morgan:
Ar fore Nadolig eleni
Aeth Boris i chwilio am dwrci
Doedd dim un yn sbâr
Dim chopen na iâr
Neith sosej y tro i’r hen gwrci.
Cewch y canlyniadau ar Trydar gan llongyfarch PAWB ar eu llwyddiant gydol y penwythnos. Edrychwn ymlaen at ERTJ 2020 gan ddiolch yn fawr iawn am gefnogaeth y cystadleuwyr, cyfeilyddion, beirniaid, noddwyr, llywyddion, y gynulleidfa a’r tîm gweithgar a di-flino o swyddogion a gwirfoddolwyr sicrhaodd Eisteddfod dda arall yn 2019.