Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2019 – Talentau di-ri ieuenctid y fro

gan Edwina Rees
Côr Dulas

Cafodd Ysgol Bro Pedr Eisteddfod lwyddiannus iawn eto eleni gyda Dulas yn dod yn drydydd gyda 526 o bwyntiau, Creuddyn yn ail gyda 541 o bwyntiau a Theifi yn gyntaf unwaith eto gyda 584 o bwyntiau.  Matt Small a Lisa Evans oedd Capteniaid Teifi ac fe weithion nhw’n galed iawn.  Enillodd Lisa yr Unawd Merched Hŷn a llawer o gystadlaethau gwaith cartref.

Yr Unawdau, y Llefaru a’r Offerynnol

Enillydd y gadair.

Ar y bore Dydd Mercher, enillodd Lexie Wells yr Unawd i Flynyddoedd 5 a 6, o dŷ Creuddyn gyda Charlotte Finch yn ennill y Llefaru i Flynyddoedd 5 a 6, o dŷ Dulas. Enillydd yr Unawd Merched Iau oedd Ffion Davies, Teifi yn canu “Dere Di” tra mai Gruffydd Llwyd Dafydd o dŷ Creuddyn enillodd yr Unawd Bechgyn Iau yn canu “Os wyt eisiau bod yn llon.”  Cipiodd Gruffydd y dwbl gan gipio’r wobr gyntaf yn y Llefaru Iau hefyd. Fe fu Siencyn Jones o dŷ Teifi yn brysur iawn gan ennill yr Unawd Bechgyn Hŷn a’r Stori a Sain gyda Iestyn Evans. Elan Jones o dŷ Teifi enillodd y Llefaru Hŷn a’r Ddeuawd gyda Sioned Davies. Yn wir, bu Elan yn brysur iawn a dyfarnwyd y cwpannau am y nifer uchaf o bwyntiau yn y cystadlaethau llwyfan a gwaith cartref iddi hi – camp anhygoel yn wir! Cafodd Sioned hefyd Eisteddfod i’w chofio gan ennill yr Areithio a’r Unawd Offerynnol Hŷn ar y piano. Megan Biddulph oedd yn llawn haeddu’r wobr gyntaf ar yr Unawd Offerynnol Iau ar y piano, gan chwarae’r darn “I Giorni.”  Yn y gystadleuaeth Meic Agored, enillodd Glyn Jones o dŷ Dulas.

Y Sgetsys, y Meim a’r Dawnsio Disgo

Enillydd y goron.

Yn un o gystadlaethau mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod, meim Creuddyn ddaeth i’r brig eleni ar y thema “Greatest Showman.”  Meim Dulas ddaeth yn ail ar y thema “Degawdau” a Teifi ddaeth yn drydydd ar y thema “Sioeau Cerdd.”

Cystadleuaeth boblogaidd arall oedd cystadleuaeth y Sgets a Theifi enillodd eleni gan ddynwared rhai o athrawon Bro Pedr. Creuddyn ddaeth yn ail a Dulas yn drydydd oedd hefyd yn actio fel ambell athro o Fro Pedr!

Dulas gipiodd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth dawnsio disgo gyda’u Capten, Samantha Weller-Pryce, wrth y llyw.

Y Gadair a’r Goron

Parti Merched Creuddyn.

Owen Rhys Davies o dŷ Dulas enillodd cystadleuaeth y Goron eleni ar y thema “Reflections” gan ddod i’r brig allan o dros 80 o gynigion. Tipyn o gamp gyda’r beirniad, Cathryn Gwynn yn canmol yr addewid a safon a welwyd ymhob cerdd!  Daeth Aoife Wooding a Max Parry yn agos iawn i’r brig. Mae cystadleuaeth y Gadair hefyd yn uchafbwynt yr Eisteddfod ac Owen Schroder o dŷ Dulas gipiodd y wobr gyntaf ar y thema “Dianc” gyda’r beirniad Mrs Delor James yn sôn i gerdd Owen greu “argraff arni o’r darlleniad cyntaf”. Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Elin Davies ac Elan Jones gipiodd y drydedd wobr.

Y Corau

Sgets Teifi.

Mrs Gillian Hearne oedd beirniad y cystadlaethau Cerdd eleni. Creuddyn ddaeth i’r brig yn y Parti Merched gyda Bryn Jones, Capten Creuddyn, yn arwain. Da iawn i Creuddyn hefyd am gipio’r wobr gyntaf yn y Côr yn canu “Hafan Gobaith” dan arweiniad eu capten gweithgar, Elin Davies.  Dulas enillodd y Parti Bechgyn gyda Catrin Davies yn eu harwain. Dulas hefyd enillodd y mwyaf o bwyntiau yn y cystadlaethau gwaith cartref gyda Theifi yn dod i’r brig yn y cystadlaethau llwyfan.

Eisteddfod lwyddiannus iawn unwaith eto gyda phawb wedi mwynhau’n fawr !

Ffion Davies a Luned Jones 8 Dewi