Ffair Ram a Thaith Tractorau 2019

Cystadlu da yn Ffair Ram

Ffair Ram
gan Ffair Ram
Enillwyr y gwobrau.
Enillwyr y gwobrau.

Cynhaliwyd yr 29ain Ffair Ram ar gae pentref Cwmann ar y 14eg Medi. Cafwyd tywydd braf iawn a chefnogaeth dda yn ystod y dydd.

Cafwyd gweithgareddau llwyddiannus yn ystod y dydd o dan lywyddiaeth Mr a Mrs Ceri a Sian Davies a chafwyd araith bwrpasol gan Ceri ar ddiwedd y prynhawn.

Cafwyd cystadlu brwd ym mhob cystadleuaeth yn yr adrannau isod ac arddangosfa dda o hen beiriannau.  Dyma’r pedwerydd blwyddyn lle trefnwyd Taith Tractorau a gynhaliwyd yn ystod y bore.

Braf oedd gweld aelodau CFfI Cwmann yn bresennol yn y sioe gan drefnu gweithgareddau ac hyrwyddo digwyddiadau dathlu 60 eleni.  Darparwyd lluniaeth yn ystod y dydd gan aelodau Sefydliad y Merched Coedmor.

Gwerthwyd y cynnyrch ar ddiwedd y dydd gan Roy Roach a chodwyd swm sylweddol tuag at Elusen Alzheimer’s.

Dyma enillwyr y Gwobrau:

Adran Fferm:- Ronnie Roberts; Llysiau a Ffrwythau:- Stan Evans; Blodau:- Muriel Mc Mullan; Cynnyrch y Gegin:- Bethan Jones; Cyffeithiau a Gwinoedd:- Pat Jones; Ysgol Feithryn:- Efa Russell; Dosbarth Derbyn:- Amelia Rees; Blwyddyn 1 a 2:- Esther Jones; Blwyddyn 3 a 4:- Cai Davies; Blwyddyn 5 a 6:- Rhun Davies; Ysgol Uwchradd:- Gwenllian Jones; Arlunwaith:- Lowri Gregson; Ffotograffiaeth:- Elen Powell; Crefftau Cefn Gwlad:- Gwyn Williams; Adran Grefftau:- Eirlys Jones.

Taith Tractorau Ffair Ram yn mynd drwy Llanbed.
Taith Tractorau Ffair Ram yn mynd drwy Llanbed.

Cyflwynwyd y cwpanau canlynol: Llysiau a Ffrwythau:- Er Cof am Martin Jones Felindre;- Stan Evans; Pwyntiau Uchaf yn Cynnyrch y Gegin a Cyffeithiau a Gwinoedd Cwpan Sialens Bronwydd:- Pat Jones a Bethan Jones; Adran Grefftau:- Cwpan sialens Er cof am Dilys Godfrey:- Eirlys Jones; Adran Defaid:- Cwpan Sialens Eric Harries am y ddafad neu oen fenyw orau:- Aled Roberts; Cwpan Sialens Wyn a Mary (Ram Inn gynt) am y Hwrdd neu oen hwrdd gorau:- Price Gelliwrol; Cwpan Sialens Dalgetty am yr anifail gorau:- Aled Roberts; Cwpan Sialens Teulu Hendai am y grŵp gorau o dri:- Price, Gelliwrol; Cwpan Sialens John Jones, Felindre Isaf am yr wyn tew gorau:- Aled Roberts.

Hoffai’r swyddogion ddiolch i bawb a fu’n helpu ac am bob cefnogaeth.

Gellir gweld mwy o luniau ar wefan Ffair Ram.