Cystadlu yn gyfyngedig i Blwyf Pencarreg ac i aelodau o fudiadau lleol.
Cadeirydd – Mrs Meinir Evans, Tanyfoel
Ysgrifennydd – Mr Wyn Jones, Hendai
Trysorydd – Mr Ronnie Roberts, Brynview / Georgina Kersey, Cyswch
Mynediad i’r cae: Oedolion – £5.00, Plant Ysgol am ddim.
Cynhelir Ffair Ram bob blwyddyn ar yr ail ddydd Sadwrn ym mis Medi ar gae pentref Cwmann ger Llanbedr Pont Steffan.
Beirniadu i ddechrauam 12 o’r gloch.
DEFAID A NWYDDAU I FEWN RHWNG 10 a 11.30 y.b.
Rhoddir Cwpan Sialens Eric Harries i’r Ddafad Fenyw Orau. Rhoddir Cwpan Sialens Wynne a Mary (Ram Inn gynt) i’r Hwrdd Gorau. Rhoddir Cwpan Sialens Dalgety i Bencampwr y Defaid. Rhoddir Cwpan Sialens John Jones, Felindre Isaf i’r Pencampwr yn Adran yr Ŵyn Tew. Rhoddir Cwpan Her Teulu Hendai i’r Grŵp o Dri Gorau yn Adran y Defaid. Rhoddir rhosedau am y Ddafad Fenyw orau a’r Hwrdd gorau ym mhob adran a bydd yr enillwyr yn cystadlu am y Cwpanau Her uchod.
Dymuna’r Pwyllgor ddiolch i bawb am bob cefnogaeth gan gynnwys y gwobrau, cyfraniadau ariannol a.y.b. DIOLCH YN FAWR.
Rheolau:
1. Dechreuir llwyfannu’r arddangosion am 11.30yb a bydd yn cau yn bendant am 12.00yp pan fydd y beirniadu’n dechrau.
2. Ni chaniateir mynediad i unrhyw berson i’r Sioe Arddwriaethol tan i feirniadu’r gwobrau orffen, arwahan i’r beirniaid, yr ysgrifennydd a’u cynorthwywyr.
3. Rhaid i’r holl arddangosion fod wedi eu tyfu, gwneud a’u perchen yn ddiffuant gan yr arddangosydd.
4. Telir y gwobrau ariannol i gyd ar y dydd.
5. Rhaid i’r arddangoswyr dalu sylw manwl i’r nifer o eitemau a ddynodir yn y rhaglen gan y gorfodir y rheol hon yn bendant.
6. Bydd yr arddangosfa yn cau am 3.30yp a ni ddylid symud yr arddangosion na’r cardiau gwobrau cyn yr awr hon, neu fforffedir gwobr ariannol yr arddangosydd. GORFODIR Y RHEOL HON.
7. Pe wrthwynebir dyfarnu unrhyw wobr, dylid cyflwyno datganiad ysgrifenedig o wrthwynebiad a blaendal o £10.00 i ofal yr Ysgrifennydd cyn 2.00yp ar ddiwrnod y Sioe. Pe na gynhelir y gwrthwynebiad fforffedir y blaendal.
8. Delir ag unrhyw beth na ymdrinir ag ef uchod gan Bwyllgor Arbennig a saif y penderfyniad gyda nhw.
9. Ni fydd y Pwyllgor yn gyfrifol am unrhyw golled na niwed i eiddo na pherson ar y cae.
10. Pe bai sgôr gyfartal, bydd y cystadleuwyr yn taflu ceiniog i ddewis enillydd.
11. Cedwir yr hawl i newid, addasu, neu ddiddymu unrhyw ran o’r rhaglen a’r rheolau.
Bydd arwerthiant o gynnyrch tua 5.00yp ar ddiwrnod y Ffair.