Rali CFfI Sir Gaerfyrddin – Clwb Cwmann 2019

gan Sian Elin

Mi roedd hi’n ddiwrnod braf a CFfI Cwmann yn barod am ddiwrnod yn llawn dathlu a chystadlu. Wedi’r holl ymarferion a’r paratoi, mi ddaeth yr amser ac yr oeddem yn barod am ddiwrnod llawn. Buodd y criw wrthi mewn amryw gystadlaethau o’r Statig, i Gêm yr Orsedd a hyd yn oed mentrodd Elen a Marged i goginio picau ar y mân.

Rhwng yr holl gystadlu mi roedd hi’n braf gweld Carys ein harweinyddes yn helpu drwy’r dydd yn ei rôl fel cadeirydd cyllid.

Ar ôl diwrnod yn llawn cystadlu, pinicl oedd i ennill yr ail safle yn y Dawnsio ac yna’r safle cyntaf yn y Canu Grŵp Iau.

Diolch i bawb a fu’n hyfforddi gyda phobeth boed yn beintio, coginio neu farnu stoc, ac i Gapel Brondeifi a Band Brondeifi am ddefnydd o’r capel i ymarfer ac am fenthyg y drymiau ar gyfer y Canu Grŵp.

Mi roedd hi’n ddiwrnod i gofio gyda phop un o’r clwb o’r aelodau i’r arwenyddion yn cymryd rhan. Ymlaen i 2020.