Ar fore dydd Sul 22ain Rhagfyr cynhaliwyd Ras Siôn Corn gan Ganolfan Hamdden Llambed. Ras hwyl deuluol oedd hon o’r ganolfan hamdden i Westy Falcondale ac yn ôl. Siwrne o tua 3 cilomedr.
Gyda’r tywydd yn gyfnewidiol daeth 70 o redwyr i gymryd rhan – rhai rhedwyr profiadol a rhai llai profiadol ond yr un oedd bwriad pob un – cael hwyl wrth redeg.
Roedd dros 20 o blant oed cynradd yn rhedeg a braf oedd gweld cymaint o deuluoedd allan yn rhedeg gyda’i gilydd. Wrth gofrestru roedd pob rhedwr yn derbyn het Siôn Corn i wisgo wrth redeg ac mi aeth nifer fawr i’r ymdrech o ychwanegu eitem Nadoligaidd at yr hetiau!
Wedi gorffen derbyniodd pob unigolyn fedal hardd cyn troi am adre yn barod, ac yn llawn haeddu’r holl fwyd a diod oedd i ddod dros yr Ŵyl!
Dywedodd Arwel (Trefnydd y ras) ” o ni methu credu faint o redwyr ddaeth i gymryd rhan – odd en anhygoel! Ac i weld y llu o liwiau yn rhedeg ar hyd Heol Falcondale odd en arbennig.
“Ni’n edrych ymlaen at ras flwyddyn nesaf yn barod a gobeithio gallu ychwanegu rhai agweddau ato. Diolch i bawb ddaeth i gymryd rhan a chefnogi ac hefyd i’r holl staff am roi o’u amser i gynorthwyo.”