Sioe Gorsgoch a C.Ff.I. Llanwenog

gan Sara Hatcher

Cynhaliwyd 39ain Sioe Amaethyddol, Cynnyrch, Ceffylau, Sioe Gŵn a Hen Beiriannau Gorsgoch a C.Ff.I. Llanwenog ar gaeau Glwydwern, Llanwnnen, trwy garedigrwydd Elfyn a Sharon Morgans ar ddydd Sadwrn, 17eg o Awst.

Prif elusen y sioe eleni oedd Unedau Cemotherapi Ysbyty Glangwili ac Ysbyty Bronglais.

Ynghyd â’r cystadlaethau yn y babell ac ar y cae, cafwyd cwpl o stondinau lleol, mabolgampau i blant, paentio wynebau ac ocsiwn lwyddiannus iawn yng ngofal Eifion Morgans.

Yna, cafwyd noson deuluol gyda Elin Haf Jones yn diddanu’r plant, castell neidio a Richard, Thomas a Sara Pantydefaid yn canu tan oriau man y bore! Diolch iddynt am noson llawn hwyl.

Er mawr foddhad i aelodau’r pwyllgor a chefnogwyr y sioe, yn dilyn y tywydd gwlyb dydd Gwener cafwyd diwrnod heulog a sioe lwyddiannus iawn o ran niferoedd a safon y cystadlu.

Cyflwynwyd y gwobrau gan y Llywyddion, Mr a Mrs Tony Hatcher, Abernant, Llanwenog, i’r canlynol:

CEFFYLAU: Ceffylau mewn llaw – Pencampwr – Dai Evans, Clogfryn, Aberaeron (Trehewyd Gwenfron). Is-bencampwr – Davies, Caehaidd, Aberaeron (Henfenyw Tegwena); Marchogaeth – Pencampwr – Vinnie Thomas, Llanybydder (Kitty). Is-bencampwr – Chloe Evans, Cwmplas stud, Coedybryn (Menai Seren Chloe); Hynodion y Ceffylau – Emily Logan, Maestir, Llambed (Cadno Herbie goes Bananas) Pencampwr yr adran geffylau, ac yn derbyn cwpan Hang-On yn roddedig er cof am Tim a Dorothy Thomas, Ffynon Rhys – Vinny Thomas, Llanybydder (Kitty).

DEFAID: Defaid Llanwenog – Pencampwr – Huw Evans, Alltgoch (hwrdd). Is-bencampwr – Gareth a Wendy Evans, Parcyrhos (dafad). Gwobr Cymdeithas Defaid Llanwenog – Huw Evans, Alltgoch (hwrdd). Defaid Speckled – Pencampwr – Teulu Morgans, Glwydwern (hwrdd). Is-bencampwr – Teulu Morgans, Glwydwern (dafad). Defaid Continental – Pencampwr – Howells, Tycam (oen). Is-bencampwr – Dylan Isaac (dafad). Unrhyw frîd “Lowland” arall – Pencampwr – Anwen Jones, Blaenblodau. Is-bencampwr – Heulyn Thomas, Sychdy. Unrhyw frîd mynyddig arall – Pencampwr – Crimes, Gafryw (hwrdd) Is-bencampwr – John Green, Llanddewi Brefi (dafad). Oen i’r cigydd – Pencampwr – John Jones, Penyrheol ac Is-bencampwr – Guto Jones, Neuadd. Pencampwr y Pencampwyr yr adran ddefaid, ac yn ennill cwpan her Wyn Morgans, Glwydwern – Huw Evans, Alltgoch. Arddangosydd gorau – Huw Evans, Alltgoch. Barnu Wyn Tew C.Ff.I – Owain Jones, Blaenhirbant.

HEN BEIRIANNAU: Pencampwr, ac yn ennill cwpan her Jim Evans, Fronwen – Eirian Evans, Brynllwyd.

GWARTHEG BIFF: Pencampwr – Teulu Morgans, Glwydwern (buwch a llo heffer). Is-bencampwr – Carwyn Lewis, Gwarcoedeinion (Best steer).

GWARTHEG GODRO: Pencampwr – Teulu Williams, Clyncoch, Cwrtnewydd (buwch mewn llaeth). Is-bencampwr – Alan Davies, Tyngrug Isaf (buches di-linach).

SIOE GWN: Pencampwr, Ela Harries, Castell Crugiau, Plwmp.

Y BABELL: Cynnyrch Gardd – Bessie Williams, Clyncoch, Cwrtnewydd; Coginio – Esyllt Ellis Jones, Cefnrhuddlan Isaf; Gwinoedd – Pete Ebbsworth, Brynamlwg; Cyffaith – Eluned Davies, Bryniau; Gwaith Llaw – Eluned Davies, Bryniau; Blodau – Erika Davies, Felinban; Cystadlaethau 18 oed neu iau – Meryl Evans, Rhydsais, Talgarreg; Cystadlaethau 26 oed neu iau – Ffion Jenkins, Ty Llwyd; Adran Plant Ysgol Gynradd: Blwyddyn 6 neu iau – Lleucu Haf Thomas, Llety Aur, Blaenporth; Blwyddyn 2 neu iau – Aron Jac, Gafryw; Ysgol â’r marciau uchaf yn yr adran arlunio, ac yn ennill tarian her Cyngor Cymuned Llanwenog – Ysgol Dyffryn Cledlyn; Cwpan Her Blaencathal, am focs o gynnyrch gardd – Bessie Williams, Clyncoch, Cwrtnewydd; Pencampwr y babell; ac yn ennill cwpan her Malcolm Fuller – Eluned Davies, Bryniau, Dihewid.

Hoffai pwyllgor y sioe ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ac edrychwn ymlaen at groesawi pawb yn ôl i’r sioe y flwyddyn nesaf ar ddydd Sadwrn 15fed o Awst 2020 wrth i ni ddathlu 40 mlynedd y sioe.