gan
Haulwen Lewis
Ym 1968 sefydlwyd cangen Merched y Wawr Pencader, ac fel rhan o ddathlu hanner canrif cynhelir ‘Te Prynhawn’ yn Neuadd yr Ysgol Llanfihangel ar arth ddydd Sadwrn Ebrill 13eg am 3 o’r gloch.
Croeso i bawb yn ŵyr a gwragedd i ymuno â ni, ond bydd rhaid cael tocyn, pris £10 oddi wrth Marina Davies 01559 384252 neu Ann Phillips 01559 384558. Cysylltwch yn gloi, neu fydd dim tocyn ar ôl.
Hefyd cynhelir Noson Gyngerdd gyda Dafydd Iwan yng nghapel Gwyddgrug Nos Wener Mai 24. Ni fydd tâl mynediad, felly dim rheswm i beidio achub ar y cyfle i’w glywed unwaith eto. (Bu Dafydd Iawn yn byw yng Ngwyddgrug pan oedd ei dad y diweddar Barchedig Gerallt Jones yn weinidog yr efengyl yno). Noson arbennig felly. Dathlu, llawenhau a mwynhau yng nghwmni aelodau Merched y Wawr Pencader a’r dyn ei hun. Dewch yn llu.