Timoedd Pêl-droed o bell ac agos yn Llambed

gan Dylan Davies

Ar ddydd Sadwrn Mehefin 15fed ar gaeau’r Brifysgol eleni cynhaliwyd ail Ŵyl Pêl Droed Llambed.

Ar ôl misoedd o baratoi, daeth y diwrnod mawr.  Roedd y tywydd wedi bod yn ein herbyn drwy’r wythnos a braf felly oedd gweld yr haul yn gwenu ar y diwrnod.

Bu llawer o ddiddordeb gan dîmau lleol a rhai ddim mor lleol! Roedd 85 o dimoedd yn cymryd rhan eleni yn ystod y dydd.

Yn cystadlu ar y dydd roedd tîmau Dan 6, Dan 8, Dan 10, Dan 12, Dan 14, Dan 16, Merched Dan 12 a Merched Dan 14.

Ar ôl cystadlu brwd roedd rhaid cael enillwyr. Canlyniadau’r dydd oedd:

Dan 8:- Enillwyr – Llambed (Llun Dan 8 Llambed)
Yn ail:- Aberaeron

Dan 10:- Enillwyr – Llambed (Llun Dan 10 Llambed)
Yn ail:- Bow Street

Dan 12:- Enillwyr – Llanilar
Yn ail – Llambed

Dan 14:- Enillwyr – Ffostrasol
Yn ail :- Aberaeron

Dan 16:- Enillwyr – Llambed (Llun Dan 16 Llambed)
Yn ail:- Tregaron

Merched Dan 12:- Enillwyr – Penrhyncoch
Yn ail :- Llambed.

Merched Dan 14:- Enillwyr – Aberteifi
Yn ail :- Ffostrasol

Braf oedd gweld Hari Jones o Dîm dan 10 Llambed yn ennill chwaraewr y twrnamaint o Dan 10 a’i frawd Jac Jones yn ennill chwaraewr y twrnamaint o Dan 8. Da iawn chi!

Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr, ond mwy na hynny, gobeithio cafodd y plant i gyd fwynhad drwy chwarae pêl droed a chystadlu.

Ar ran Clwb Llambed, diolchwn i’r plant, rhieni a’r cefnogwyr am eu cefnogaeth drwy’r dydd, ond mae’r diolch mwyaf i’r gwirfoddolwyr a fu’n paratoi am yr wythnosau yn arwain at y diwrnod. Diolch i’r busnesau lleol am eu hamser a’u haelioni i wneud y diwrnod yn un llwyddiannus a hwylus i bawb.  Edrychwn ymlaen i groesawu pawb yn ôl i Dwrnamaint Llambed yn 2020.