Cynhaliwyd Treialon Cŵn Defaid a Sioe Flynyddol Cwmsychpant a’r Cylch ar gaeau Waun, Rhydowen ar ddydd Sadwrn, Awst y 10fed trwy garedigrwydd Mrs. Ella a Mr. Vernon Davies.
Cafwyd diwrnod llwyddianus iawn unwaith yn rhagor ac eleni roedd yr elw yn mynd tuag at Nyrsur Stoma. Codwyd swm sylweddol a fydd yn cael ei ddefnyddio i brynu nwyddau a fydd yn cynorthwyo’r nyrsus yn eu gwaith.
Dechreuodd diwrnod y sioe yn gynnar gyda’r treialon a bu’r cŵn defaid yn rhedeg o’r bore bach tan yr hwyr. Unwaith eto eleni roedd y babell yn orlawn o gynnyrch amrywiol ac roedd y cyfan o safon uchel. Er gwaethaf y glaw cynhaliwyd mabolgampau i’r plant yn y bore a hynny mewn lle clyd a chynnes yn y babell ac mi wnaeth nifer helaeth ennill rhubanau. Yn ogystal cafwyd arddangosfa o hen beiriannau a oedd yn werth i’w gweld. Braf eleni hefyd oedd gweld amrywiaeth o stondinau yn gwerthu cynnyrch o safon ar gaeau’r sioe, diolch yn fawr iddynt am eu cefnogaeth.
Ein Llywydd eleni oedd Eryl a Mary Price, Esgaireinon, Penffordd a braf iawn oedd cael eu cwmni trwy gydol y dydd. Siaradodd Eryl ar ran y ddau a soniodd am y fraint yr oedd wedi cael o dderbyn y swydd i fod yn lywydd ar y sioe. Mawr hefyd yw ein diolch iddynt am eu rhodd haelionus i’r coffrau.
Ar ddiwedd y prynhawn cynhaliwyd ein gwerthiant blynyddol llwyddiannus gyda Sion Jenkins a Dewi Jones wrth y llyw. Unwaith yn rhagor gwerthwyd amrywiaeth helaeth o bethau a gyfrannwyd gan gefnogwyr y sioe a chodwyd arian sylweddol i’r elusen.
I gloi’r diwrnod penigamp, cafwyd adloniant yng nghwmni Dai Hands a’i ddisgo. Braf oedd gweld pawb o bob oed yn dawnsio i’r disgo tan oriau man y bore. Unwaith eto eleni cynhaliwyd sesiwn ddisgo i’r plant yn gyntaf ac yna cystadleuaeth “Taclo’r Tasgau”. Cystadleuaeth i dimau o bedwar aelod oedd “Taclo’r Tasgau” a gwelwyd nifer fawr o dimau yn rhoi tro ar daclo’r pedair tasg a roddwyd iddynt ar y noson. Y tasgau roedd angen iddynt gwblhau oedd un i droi peiriant cneifio, un arall yn cneifio, un yn troi darn o bren gyda blocyn arno a’r ferch yn yfed peint. Cafwyd llawer o hwyl gyda’r babell dan ei sang yn gweiddi a chefnogi eu timoedd. Enillwyr y tasgau eleni oedd “CFfi Llanwenog” sef Sioned Davies, Heilin Thomas, Meleri Davies a Gethin Morgan. Llongyfarchiadau mawr iddynt.
Dyma restr o enillwyr y dydd:
Treialon Cŵn Defaid
Cenedlaethol Agored – Irwel Evans, Ystrad Meurig
Nofis Cenedlaethol Agored – John Price, Pisgah
Agored De Cymru – Kevin Evans, Libanus
Nofis Agored D e Cymru – Kevin Evans, Libanus
Gwinoedd – Megan Richards, Aberaeron
Cyffeithiau – Wendy Davies, Penffordd
Coginio – Wendy Davies, Penffordd
Gwaith Llaw – Sally Rees, Llanarth
Crefft – Carwyn Davies, Penffordd
Ffyn – Mr Fox, Cwrtnewydd
Ffotograffiaeth – Katy Mayes, Cwrtnewydd
Arlunio Plant
Bl. 2 ac o dan – Wil Williams, Cwmsychpant
Bl. 3 a 4 – Gwenno Mills, Rhydowen
Bl. 5 a 6 – Sian Jenkins, Capel Dewi
Adran Plant
Cyfnod Sylfaen – Alaw Freeman, Llanon
Cyfnod Allweddol 2 – Fflur Morgan, Drefach
12 ac o dan 17 – Lleucu Rees, Penffordd
Adran Blodau – Erika Davies, Llanwnnen
Celfyddyd Blodau – Erika Davies, Llanwnnen
Cynnyrch Gardd – Bessie Williams, Cwrtnewydd
Hen Beiriannau – Eirian Evans, Llanwnnen
Adran Geffylau
Pencampwr yr Adran Geffylau – Alis Evans, Talgarreg
Pencamwr yr Adran Geffylau i Blant – Alis Evans, Talgarreg
Adran Ddefaid
Pencampwr Croesfrid – Morgans, Glwydwern
Taleb gwerth £25 – Morgans, Glwydwern
Dymuna pwyllgor Treialon Cŵn Defaid a Sioe Cwmsychpant ddiolch yn fawr iawn i’r beirniaid, y stiwardiaid, y noddwyr a phawb arall am bob cyfraniad a chymorth a dderbyniwyd er mwyn sicrhau sioe lwyddianus arall.