Tra’ch bod chi i gyd yn mwynhau’ch ‘cawl twymo’ nos Sadwrn 2il o Fawrth roedd cystadleuwyr y byd ralio yn ymgynull ar y Rookery yn Llanbed i gymryd rhan yn Rali Bro Caron, rali nos flynyddol wedi’i threfnu gan Glwb Moduro Llanbed.
Oherwydd eira yn gynt yn y flwyddyn, fe ganslwyd rali gynta’r tymor yn y calendr ralio yng Nghymru, felly roedd y cynnwrf gymaint yn fwy ar y rali hon yn Llanbed.
Ychydig cyn hanner nos, ar ôl sicrhau diogelwch y ceir, a sicrhau yswiriant ayyb, fe ymlwybrodd y 90 car i ddechrau’r rali sef trwy fwa Gwesty’r Llew Du yng nghanol y dre.
O’r fan hynny fe rasiodd y ceir dros 90 milltir drwy heolydd cul y wlad o gwmpas canol a gogledd Ceredigion. Roedd pob cymal wedi’i amseru, ac roedd swyddogion ar hyd y daith yn sicrhau bod y ceir yn dilyn y rheolau a chadw’n ddiogel.
Roedd rhai o yrrwyr mwyaf profiadol ralio nos ar y rhestr o gystadleuwyr, rhai wedi teithio mor bell â Knighton, Harlech, Quinton, Stockport ac Ynys Môn. Car rhif un oedd Andy Davies a Michael Gilbey mewn swbarw, dau fachgen lleol, ac enillwyr y rali llynedd. Yn anffodus oherwydd problemau gyda’r car, byr iawn oedd eu rali nhw. Ford Escorts oedd y mwyafrif o’r ceir, addas iawn i ralio oherwydd gyrriant olwyn ôl, sy’n ei gwneud hi’n haws i reoli’r cerbyd ar lonydd cul a throeon tynn.
Er mwyn gallu cwblhau’r rali, trefnwyd i’r ceir stopio yn garej Aeron Coast Aberaeron, i godi tanwydd, cyn bwrw ymlaen i ruo ar hyd rhagor o lonydd cefn gwlad.
Er ei bod yn noson weddol sych, cwyn yr holl yrrwyr oedd ei bod yn llithrig iawn ar y lonydd, a diwedd rali sawl un oedd yn y clawdd neu’r ffôs! I’r rhai hynny wnaeth gyrraedd y terfyn, roedd brecwast blasus wedi’i baratoi ar eu cyfer yng Nghlwb Rygbi Llanbed. Yma hefyd oedd y seremoni wobrwyo.
Prif enillydd y rali oedd Kevin ‘Smiley’ Davies o Landysul gydag Alan James ei gyd-yrrwr, mewn Escort MKII. Gorffennodd y rali dros munud yn gynt na Carwyn Davies a Ryan Griffiths oedd yn yr ail safle. Llwyddodd Kevin i wneud hyn, er ei fod tair munud ar ei hôl hi ar ddiwedd yr hanner cyntaf, tipyn o gamp!
Mark Lennox ac Ian Beamond o Knighton gipiodd y wobr gyntaf yn nosbarth yr arbenigwyr gyda chriw o dad a mab lleol yn ennill y dosbarth nesaf, sef Carwyn ac Owen Rowcliffe. Dau fachgen lleol ddaeth i’r brig yn nosbarth y newyddwyr hefyd sef Rhodri Lewis a Dion Phillips, hyn yn amlygu efallai fod gwybodaeth leol yn gymorth wrth ceisio dilyn map ar gyflymder uchel.
Roedd Marc Hughes, Cadog Davies a’r holl dîm trefnu, yn ddiolchgar iawn i bawb wnaeth helpu i wneud y rali yn llwyddiant. Roeddynt yn ddiolchgar hefyd i bawb ar hyd llwybr y rali am eu hamynedd a chydweithrediad.
I’r rhai oedd yn methu mynd allan i wylio’r rali, roedd y cyfan yn cael ei ddarlledu’n fyw, drwy gymorth gwirfoddolwyr lleol ar sianel Radio Cymru FM, felly doedd dim esgus i neb golli allan ar y cyffro!