Mae’n 25ain mlynedd ers i mi wisgo’r wisg hon!

gan Dafydd Wyn Morgan

Ar y 10fed o Ebrill 1995 am 9.45 y.b. roedd rhaid i mi wisgo gwisg liwgar iawn er mwyn helpu ffrind agos yn Llanbedr Pont Steffan. Roedd yr ymdrech yn rhan o ail agoriad siop bapurau Caxton Hall, dan ofalaeth Debbie a Julian Evans.

Gwnaeth y ddau ddwyn perswâd arna i wisgo fel Bertie Bassett, Liquorice Allsorts, a dosbarthu losin am ddim wrth i bobl ddod i’r siop ar ei newydd wedd.

Rwy’n cofio iddo fod yn ddiwrnod twym a hir. Roedd gennyf angladd am 1.00 y.p. hefyd, yn Nhregaron. Yn dilyn yr angladd, dychwelais i Lanbed ac ail-gydio yn fy nyletswyddau hollbwysig o ddosbarthu losin!

Maes o law, daeth diwedd i’r rhialtwch rhyfeddol gyda Debbie, Julian â’r staff cyfan wedi blino’n lan ar ôl diwrnod da o werthiant a chyffro. Doedd neb yn credu fy mod wedi para i wisgo’r wisg cyhyd ar ddiwrnod crasboeth o Ebrill.

Am 5:30 y.p. fe’m diolchwyd yn wresog gan Debbie a Julian, cauwyd drysau’r siop a fe’m danfonwyd lan stâr i newid.

Yno darganfyddais ystafell oer a thywyll, lle medrais ddadwisgo a dianc o’r wisg chwyslyd!

Tra’n sefyll yn fy nillad isaf ac wrth gribo ngwallt (fel dysgwyd fi gan mam), agorodd y drws ac yno oedd un o staff y siop, aelod nad oeddwn wedi cwrdd o’r blaen. Doeddwn i wir ddim yn gwybod lle i edrych ac â thipyn o ansicrwydd, holodd,

“Would you like to go out for a drink?“.
A mi atebais yn syth, “Yes, of course”.
“See you downstairs in five minutes,” dywedodd hithau, a chau’r drws â chlep.
“Oh OK……….” atebais.
A diflannodd mor sydyn ag y daeth.

Well bois bach, feddyliais (wrth i mi deidio’n ngwallt bach mwy), “’Wi miwn fyna,” dywedais yn dawel bach.

Roedd y wisg wedi dal ei llygaid mae’n rhaid, ac er nad oedd wedi’m gweld o’r blaen, roedd rhaid bod rhywbeth wedi’i hysgogi i ddod ataf ar ddiwedd y prynhawn.

Yn ddiweddarach aethpwyd i’r King’s Head yn Llanbedr Pont Steffan, a chael noson lawen o gymdeithasu, noson wnaeth newid cwrs fy mywyd.

Roedd yr aelod o staff dan sylw, a dreuliai pob cyfle ag y gallai i weithio yn siop Caxton Hall, heb fy ngweld i erioed o’r blaen, ond trwy ffawd rhyfeddol, daeth yn wraig ffyddlon a chariadus i mi.

Mae bywyd wedi bod yn anhygoel ers y diwrnod gwresog hwnnw bum mlynedd ar hugain yn ôl.

Felly rwy’n priodoli’r achlysur yma o gofio, i’r gwaith mae hi a’i chyd feddygon yn eu gwneud yn ardal Llanbedr Pont Steffan a Llanybydder ac hefyd i’r tîm eang o nyrsus a gofalwyr iechyd a chymdeithasol sy’n brwydro i orchfygu’r firws presennol. Maent i gyd yn arwyr lleol ac mi ddylen ni barhau i aros adref i achub bywydau pawb. Peidied neb felly, â chrwydro’r strydoedd, ta beth yw’r wisg!

O.N. Dwi’n cofio i Debbie a Julian ddweud nad oedd rhaid i mi ddychwelyd i wneud ail shifft ar ôl yr angladd. Dwi’n falch fy mod i wedi.